AmserSainFideo
00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng pum prifysgol sy’n Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Bwriad ASTUTE 2020 yw ysgogi twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru, drwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, gan sbarduno ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau drôn o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Logos Partneriaid ASTUTE 2020 sy’n Sefydliadau Addysg Uwch – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Lluniau o’r cyfleusterau ar Gampws SA1 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Prifysgol Abertawe, adeilad y Coleg Peirianneg yn arwain ymlaen at Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arno.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr microsgôp a robot Kuka diwydiannol yn symud o gwmpas mewn dilyniant.

00:00:31 Helô! Fy enw i yw Ian Cooper, ac rwy’n Gymrawd Technoleg yn TWI. Cwmni byd-eang yw TWI, ac rydym ni’n arbenigo mewn weldio ac asio, profion annistrywiol a thechnolegau eraill cysylltiedig.

Darn o ffilm yn cyflwyno’r Athro Ian Cooper, Cymrawd Technoleg yn TWI o flaen baner ASTUTE 2020 a baner TWI. Astudiaethau achos ASTUTE 2020, llyfrynnau ac eitemau wedi’u hargraffu â 3D ar y ddesg.

Darn o ffilm yn dangos gwedd allanol adeilad TWI gyda logo TWI.

00:00:43 Rhoddodd ein Sefydliad Deunyddiau Ymchwil Peirianneg brosiect o’r enw “IntACom” at ei gilydd. Y syniad oedd datrys rhai o’r tagfeydd oedd yn codi yn ystod gweithgynhyrchu o ganlyniad i’r broses NDT drwy ddatblygu system NDT awtomatig a fyddai’n caniatáu archwilio rhannau cyfansawdd a rhannau crwm eraill oedd â geometreg cymhleth.

Darn o ffilm yn dangos dau robot Kuka chwe-echelin yng nghyfleuster gweithgynhyrchu TWI a llun o logo TWI.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Ian Cooper yn egluro’r gefnogaeth oedd yn angenrheidiol.

00:01:04 Elfen ganolog y system yw dau robot chwe-echelin, gyda system arae graddol ar ben pob robot sy’n defnyddio uwchsain i archwilio’r rhan. Yr her yn y fan hon yw bod angen i ni ddefnyddio chwistrell ddŵr i gael yr uwchsain o’r trawsddygiadur i’r cydran, ac roedd sialens cynhyrchu llif laminar cydlynus o ddŵr oedd yn caniatáu trosglwyddiad uwchsain effeithiol yn rhy anodd i ni, doedd y sgiliau ddim gennym ni’n fewnol. Trwy raglen ASTUTE fe gawson ni gyfle i gael mynediad i’r lefelau hyn o arbenigedd, ac roedden nhw’n gallu gwneud modelu ar ein rhan er mwyn gwella llif y dŵr trwy’r ffroenellau.

Darn o ffilm yn dangos y ddau robot mawr chwe-echelin yn symud ar hyd trac y tu ôl i rwystr gwydr.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Ian Cooper yn disgrifio her weithgynhyrchu TWI.

Darn o ffilm yn dangos y chwistrell ddŵr yn system Uwchsonig yr Arae Graddol. Defnyddir dŵr yn gyplydd i drosglwyddo’r dôn uwchsonig o drawsddygiadur mewnol i arwyneb y rhan.

Darn o ffilm yn dangos y system archwilio robotig awtomatig ar gyfer strwythur cyfansawdd cymhleth.

Swyddog Prosiect yn edrych ar efelychiadau deinameg hylif cyfrifiadurol ar sgrîn cyfrifiadur.

00:01:42 Roedd y gefnogaeth gawson ni gan Brifysgol Abertawe gyda’r agweddau modelu, agweddau CFD y gwaith a’r efelychiadau yn amhrisiadwy. Mae PCYDDS wedi bod yn bartner i TWI ers 15 mlynedd, ac eto roedd eu cefnogaeth yn amhrisiadwy, ac fe roddodd yr hyder i ni wneud yr argraffu 3D a chynhyrchu’r ffroenellau wedi’u hoptimeiddio.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Ian Cooper yn disgrifio’r gefnogaeth a gafwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gan gynnwys yr arbenigedd.

Efelychiadau CFD o lwybr y chwistrell ddŵr o’r ffroenell.

00:02:06 Roeddwn i wrth fy modd bod y trefniant cydweithio hwn wedi dangos pŵer dwy Brifysgol yn cydweithio gan rannu eu harbenigedd cyflenwol. Y bartneriaeth rhwng Nathan Hartley o TWI a Dr Fawzi Belblidia o Brifysgol Abertawe, a ddaeth ag arbenigedd mewn deinameg hylif gyfrifiadurol. Daeth yr Athro Peter Charlton â’i arbenigedd o PCYDDS ar ffurf profion annistrywiol a gwerthuso.

Darn o ffilm yn cyflwyno’r Athro Kelvin Donne, Prif Ymchwilydd PCYDDS ASTUTE 2020, yn eistedd o flaen dwy faner ASTUTE yn disgrifio’r arbenigedd oedd gan bob un o bartneriaid y prosiect i’w gynnig ar gyfer y trefniant cydweithio diwydiannol hwn.

Aelod o staff TWI yn cynnal arbrawf Profi Uwchsonig Arae Graddol ar raddfa fach gyda phrototeip chwiliwr arall. Nod yr arbrawf yw lleihau’r sŵn a gynhyrchir gan y chwistrell ddŵr. Aelod o staff TWI yn gwerthuso’r canlyniadau a gafwyd o’r arbrofion.

00:02:36 Gwelwyd sawl mantais, ac elfen allweddol yn hyn i gyd, mewn gwirionedd, yw’r berthynas waith sydd wedi cael ei datblygu rhwng TWI a dwy o brifysgolion amlycaf Cymru. Mae’r camau ymlaen a gymerwyd gyda dyluniad y ffroenell wedi dileu rhwystrau pwysig i ddatblygiad y rhaglen “IntACom” ac rydym wedi gallu cynhyrchu dwy swydd o ansawdd uchel yn uniongyrchol o ganlyniad i’r ymyriad hwn.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Ian Cooper yn disgrifio’r manteision o ganlyniad i’r cydweithio hwn.

Darn o ffilm yn dangos y cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynnal yr arbrawf.

Dau aelod o staff TWI yn defnyddio teclyn rheoli o bell i raglennu un o’r robotiaid.

00:02:59 Mae’n wych gweld bod Is-adran Uwch ein Sefydliad Ymchwil Deunyddiau wedi gallu cydweithio ag A2020 i gyflwyno prosiect mor wych a chyfuno dau brosiect anhygoel sy’n cael eu hariannu gan yr UE.

Llun agos o’r robot yn symud nôl i’w safle gwreiddiol.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Ian Cooper yn sôn am y cydweithio rhwng y Sefydliad Ymchwil Deunyddiau Peirianneg Uwch (AEMRI) ac ASTUTE 2020.

00:03:16 Yn fy marn i mae’n wir yn dangos lle gall diwydiant elwa wrth i ddwy Brifysgol weithio mewn partneriaeth, lle mae’r cyfuniad yn cynnig mwy o sylwedd na’r elfennau unigol.

Darn o ffilm lle mae’r Athro Kelvin Donne yn disgrifio’r bartneriaeth.

Llun panio o robotiaid TWI a’r traciau.

00.03.29 Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.