AmserSainFideo
00.00.00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng sawl prifysgol sy’n Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

Mae’n gweithio gyda’r diwydiant gweithgynhyrchu gwerth uchel ledled Cymru trwy gydweithio’n effeithiol ag academia a chymhwyso gwybodaeth uwch am beirianneg i heriau gweithgynhyrchu, er mwyn sbarduno cynhyrchiant a thwf gyda’r diwydiant.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, wedi’u tynnu â drôn.

Logos y Sefydliadau Addysg Uwch sy’n Bartneriaid i ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Lluniau o’r adeiladau ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, gan edrych i gyfeiriad gwaith dur Port Talbot.

Adeilad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yna Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arno.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr microsgop a robot diwydiannol Kuka yn symud o gwmpas mewn dilyniant.   

00.00.31

Fy enw i yw Chris Loynes a fi yw rheolwr y ffatri yn Lyte Ladders & Towers, Abertawe. Mae Lyte wedi bod yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o ffibr gwydr a chyfarpar mynediad ers dros 65 mlynedd.

Daethon ni at ASTUTE 2020 gyntaf nôl yn 2012 ac maen nhw wedi bod yn cydweithio â’r tîm fyth oddi ar hynny ar amrywiol brosiectau ymchwil. Roedd hynny’n caniatáu i ni ddatblygu a deall prosesau rhag-weldio a manteisio ar arbenigedd ymchwil ASTUTE 2020 er mwyn datblygu ein gwybodaeth ein hunain ymhellach.  

Logo Lyte Ladders & Towers.

Y tu allan i Gyfleuster Gweithgynhyrchu Lyte Ladders & Towers yn Abertawe, a lori’n dwyn brand y cwmni. 

Lluniau o Chris Loynes – Rheolwr Ffatri Lyte Ladders & Towers yn cael cyfweliad o flaen baner ASTUTE 2020 ac astudiaethau achos a llyfrynnau ASTUTE 2020 ar y ddesg. 

Lluniau o’r tu mewn i lawr ffatri weithgynhyrchu Lyte Ladders gyda staff Lyte yn gweithio wrth wahanol orsafoedd cynhyrchu. Ysgolion o wahanol feintiau’n cael eu rhoi at ei gilydd. 

Weldiwr yn Lyte Ladders yn weldio ysgol ac ysgol yn symud ar hyd y llinell gynhyrchu yn y ffatri.

00.01.00

Cawson ni anawsterau wrth optimeiddio’r broses weldio robot, ac arweiniodd hynny at nifer fawr o ddiffygion, gan gostio amser ac arian i’r busnes.

Roedd ASTUTE 2020 mewn sefyllfa i’n cefnogi â’u harbenigedd ym meysydd deunyddiau uwch, modelu cyfrifiadurol a systemau gweithgynhyrchu. Mae’r trefniant cydweithio wedi caniatáu i ni symud o weldio â llaw i awtomeiddio mwy soffistigedig ar gyfer gweithgynhyrchu ysgolion a thyrau sgaffaldiau.     

Lluniau o’r cyfarpar a’r gorsafoedd cynhyrchu yn Lyte Ladders. Silffoedd o rannau tyrau sgaffaldiau, a staff yn archwilio rhannau’r tyrau.

Chris Loynes, Rheolwr y Ffatri, yn disgrifio’r arbenigedd a ddarparwyd gan ASTUTE 2020.

Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr microsgop yn dadansoddi deunyddiau ac yna Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn adolygu efelychiadau modelu cyfrifiadurol o gymalau’r ysgol. Uned rheoli o bell ar gyfer y robot diwydiannol sy’n rhan o’r Coleg Peirianneg, gyda’r robot yn symud mewn dilyniant.

00.01.26 O ganlyniad uniongyrchol i’r cydweithio, rydyn ni wedi gallu cynyddu ein gweithlu, gan gyflogi saith person newydd; rydyn ni wedi gallu ehangu ein hamrywiaeth presennol o gynnyrch, yn ogystal â chyflwyno cynnyrch newydd i’r farchnad. Chris Loynes, Rheolwr Ffatri Lyte Ladders, yn sôn am y trefniant cydweithio, cyn symud ymlaen at luniau o gyflogeion Lyte yn gweithio yn y cyfleuster, yn symud ysgolion, yn drilio tyllau ac yn bolltio rhannau o ysgolion at ei gilydd.
00.01.42

Mae’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’n her weithgynhyrchu a’r ymchwil a wnaed gan y tîm wedi golygu bod modd i ni fod yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.

Heb gefnogaeth ASTUTE 2020 fydden ni ddim yn mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch mor gyflym er mwyn i ni wella is-adran weldio’r busnes, er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir i’r cwmni yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Ysgolion wedi’u pecynnu ac yn barod i’w dosbarthu yng nghyfleuster Lyte. Lorïau’n aros a Staff Lyte yn llwytho ysgolion i’r lorïau i’w dosbarthu. Weldiwr robotig ar waith, yn weldio ysgol at ei gilydd ac yn ei throi’n awtomatig. Staff Lyte yn sicrhau bod y ‘Lyte Pod’ yn ddiogel.
00.02.05 Roedd yn wych gwybod bod arbenigedd ar garreg y drws yn Abertawe. Rydyn ni wedi cael profiad gwych yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, a bydden ni’n hoffi i’r bartneriaeth barhau.

Llun o’r tu allan i Gyfleuster Gweithgynhyrchu Lyte Ladders & Towers. 

Chris Loynes, Rheolwr y Ffatri, yn sôn am brofiad gwych Lyte gydag ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Abertawe, gyda baner ASTUTE 2020 yn y cefndir ac astudiaethau achos ASTUTE 2020 a llyfrynnau Lyte Ladders ar y ddesg. 

00.02.17 Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

ASTUTE 2020 a Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.