Vernacare medical sharps bins. Sharpsafe range designed with up to 20% recycled content.

Ymchwilio i ddeunyddiau a ailgylchwyd, eu canfod, a sicrhau cyflenwad ohonynt er mwyn gwella a chynnal proffidioldeb biniau mowldio chwistrellu ar gyfer offer miniog meddygol.

Cyflenwyr blaenllaw yn y farchnad nwyddau traul meddygol i ddarparwyr gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yw Vernacare. Maen nhw’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu cynwysyddion offer miniog, cynnyrch atal heintiau, a datrysiadau lleihau niwed, a nhw ddatblygodd yr unedau gwaredu gwastraff pwrpasol cyntaf yn y byd i’w gweithgynhyrchu ar gyfer offer miniog a halogwyd – eu hamrywiaeth o gynnyrch Sharpsafe®.

Mae WRAP Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn hybu a hyrwyddo defnydd o adnoddau cynaliadwy trwy ddylunio cynnyrch, lleiafu gwastraff, ac ailddefnyddio, ailgylchu ac ailbrosesu deunyddiau gwastraff. Maen nhw’n cefnogi gweithgynhyrchwyr i ymgorffori cynnwys a ailgylchwyd yn eu cynnyrch ac estyn hyd eu hoes ddefnyddiol trwy fuddsoddiad cyfalaf ar ffurf Cronfa £6.5 miliwn yr Economi Gylchol.    

Nod y trefniant cydweithio rhwng Vernacare, ASTUTE 2020+ a WRAP Cymru oedd cynyddu’r cynnwys a ailgylchwyd yn ystod cynnyrch Sharpsafe®, oedd yn draddodiadol wedi’u gwneud o blastig newydd sbon. I gyflawni’r amcan hwn, roedd angen i’r tîm ganfod ffynhonnell addas o ddeunydd wedi’i ailgylchu, asesu ei briodweddau ac unrhyw uwchraddio posibl, a phenderfynu a oedd yn addas i gymryd lle’r deunydd newydd sbon yn llwyr neu’n rhannol.

Heriau

Mae gofyn bod cynnyrch Sharpsafe® yn pasio dau brawf critigol: gallu gwrthsefyll treiddiad a goroesi prawf gostyngiad i -18°C (a allai ddigwydd yn ystod trafnidiaeth wedi’i oeri ar y ffordd i gael eu hylosgi). Mae’r rhain yn galw am gyfuniad o galedwch a gallu i wrthsefyll ergydion ar dymheredd isel, priodweddau sy’n aml yn anodd eu cysoni gan fod cynnydd yn un o’r priodweddau hynny yn arwain yn gyffredinol at ostyngiad yn y llall.

Roedd angen i’r prosiect arddangos brofi dichonoldeb ymgorffori deunyddiau ôl-ddiwydiannol a ailgylchwyd heb beryglu ansawdd y cynnyrch.  

I gyflawni hyn, roedd gofyn bod y tîm yn gwneud y canlynol:

  • Nodi un ffynhonnell neu fwy ar gyfer polypropylen cydbolymer wedi’i ailgylchu a fyddai’n darparu cyflenwad glân, cyson a dibynadwy, yr oedd digon ohono,
  • Profi addasrwydd y deunydd ar gyfer gweithgynhyrchu Sharpsafe® trwy gyfuniad o brofion labordy a threialon cynhyrchu,
  • Archwilio dulliau ar gyfer uwchraddio priodweddau deunyddiau yn ôl y galw,
  • Asesu’r goblygiadau ymarferol ar gyfer cynhyrchu masnachol sy’n ymgorffori deunydd wedi’i ailgylchu.

Datrysiad

Profwyd cyfanswm o 29 o gyfuniadau o ddeunyddiau i ganfod yr opsiwn gorau oedd â phriodweddau addas. Bu ASTUTE 2020+ yn cynnal treialon arbrofol i efelychu perfformiad, a chwblhaodd tîm Vernacare dreialon gweithgynhyrchu niferus. Arweiniodd y rhain at ganfod dau gyfuniad oedd yn bodloni safonau profi trylwyr a chynhwysfawr y cwmni, gan sicrhau nad oedd safon y cynnyrch yn cael ei beryglu trwy gyflwyno deunydd a ailgylchwyd.

Bu WRAP Cymru yn cynorthwyo Vernacare i gael hyd i gyflenwr dibynadwy a allai gynnig darpariaeth gyson o’r cyflenwad angenrheidiol o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu oedd yn angenrheidiol ar gyfer eu prosesau gweithgynhyrchu. 

Sharpsafe accessories range made with 100% recycled content.
Computer model of 13L sharps bin

Effaith

O ganlyniad uniongyrchol i ganfyddiadau’r prosiect hwn, mae amrywiaeth Vernacare o gynwysyddion offer miniog yn awr yn cynnwys hyd at 20% o ddeunyddiau a ailgylchwyd. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno deunyddiau a ailgylchwyd 100% yn eu dewis o ategolion a nodweddion eu cynnyrch.

Ar ôl defnyddio’r cydweithio i ddangos ymarferoldeb ymgorffori deunydd a ailgylchwyd wrth gynhyrchu, gwnaeth Vernacare gais llwyddiannus am gyllid trwy Gronfa’r Economi Gylchol – menter gan Lywodraeth Cymru dan gyfarwyddyd WRAP Cymru – i fuddsoddi mewn systemau newydd ar gyfer trin deunyddiau a chyfarpar profi a dilysu rheoli ansawdd.

Darparodd Vernacare arian cyfatebol at yr hyn a ddarparwyd gan WRAP Cymru, gan helpu i hybu eu cynnydd at fodel economi gylchol a chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer datrysiadau diogel i atal heintiau.

Arweiniodd y trefniant cydweithio hefyd at yr effeithiau a’r manteision canlynol:

  • Creu naw swydd newydd,
  • Mwy o rolau technegol a chynhyrchu i gael eu creu yn fuan er mwyn helpu i brosesu plastig a ailgylchwyd,
  • Ar darged i sicrhau gostyngiad o 2.5 mil tunnell yn eu hallyriadau CO2 yn ystod y tair blynedd nesaf,
  • Amser cylch a lleihau defnydd o ynni mewn amrywiol brosesau – gostyngiad o 20% yn amser cylch peiriant caead 9/13L
  • Gostyngiad o 10g yn y plastig fesul rhan yng nghydran caead 9/13L trwy optimeiddio’r broses,
  • Gwell gweithdrefnau rheoli ansawdd sydd wedi arwain at wastraffu llai o ddeunydd,
  • Lefel Parodrwydd Technoleg ymgorffori deunydd a ailgylchwyd wrth gynhyrchu wedi codi o lefel 3 i lefel 5. Bydd cyllid WRAP yn helpu i symud ymlaen i lefel gwbl fasnachol, sef TRL 7, a daw manteision masnachol ac amgylcheddol sylweddol yn sgîl hynny.

Gwerth ychwanegol i’r prosiect fu myfyriwr gradd Meistr penodedig o’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) a ariannir gan yr UE. Mae gwaith y myfyriwr dan sylw yn cydweddu â phrosiect ASTUTE 2020+, ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i Vernacare tra bod y myfyriwr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymchwil â arweinir gan ddiwydiant.