Diwydiant ac Academia’n Cydweithio ar Ddyfais IoT sy’n troi Cegiau Cwrw yn Gynwysyddion Clyfar ar Unwaith

Cwmni datrysiadau technegol yng Nghaerdydd yw The Smart Container Company, ac mae’n datblygu’r KegTracker™, dyfais Rhyngrwyd Pethau (IoT) cyntaf i’r farchnad, anymwthiol, un maint i bawb sy’n troi cegiau a chasgenni yn gynwysyddion clyfar ar amrantiaid. 

Amcangyfrifir bod modd arbed pum biliwn o bunnoedd trwy ddileu elfennau aneffeithlon yng nghadwyn gyflenwi cwrw bob blwyddyn, a hynny yn y Deyrnas Unedig yn unig. Nod KegTracker™ yw grymuso bragwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr â data amser go iawn ynghylch lleoliad, cyfaint, tymheredd a symudiad cegiau, er mwyn darparu dealltwriaeth ar draws y gadwyn gyflenwi fydd yn golygu bod modd i brosesau newydd a yrrir gan ddata leihau aneffeithlonrwydd a chynyddu cynaliadwyedd.

Heriau – Mesur Cyfaint a Chynaeafu Ynni

Cydnabyddir bod diffyg data a gwelededd yn y gadwyn gyflenwi bresennol yn golygu bod cegiau’n cael eu dychwelyd yn arafach na’r hyn fyddai’n ddelfrydol, fel bod nifer y cegiau sydd mewn cylchrediad 30% i 70% yn fwy na’r angen. Ar ben hyn, mae cyfradd flynyddol colli cegiau yn 10%.

Elfen allweddol o lawer o’r gwasanaethau mae The Smart Container Company am eu cynnig â’r KegTracker™ yw mesur cyfaint, gan gynnwys cipolwg ar gymeriant a rheoli rhestrau stoc.

Mae’r trefniant cydweithio unigryw rhwng The Smart Container Company ac ASTUTE 2020 wedi defnyddio arbenigedd o fri ym maes systemau gweithgynhyrchu i ymchwilio i ddulliau o reoli lefel hylif a chanfod dichonoldeb dulliau cynaeafu ynni i roi pŵer i’r ddyfais IoT trwy ddefnyddio synwyryddion.

Gall adalw mesuriadau cyfaint cywir ar gyfer cynwysyddion metel a seliwyd fod yn eithriadol o heriol, yn enwedig yn achos cynwysyddion mawr, trwchus fel y cegiau sy’n cael eu defnyddio i storio cwrw, coffi bragu oer, gwin, coctêls, CO2, nitrogen, etc., gan fod ffactorau fel lleoliad y synhwyrydd, maint y cynhwysydd, a lefel yr hylif yn effeithio ar fesuriadau’r synhwyrydd. Ar ben hynny, mae rhaid i unrhyw ddyfais synhwyro fedru cymryd mesuriadau mewn modd anymwthiol sy’n cydweddu â dyluniad y KegTracker™, gan ddefnyddio cyn lleied o bŵer â phosibl.

Gan ei bod yn system sy’n cael ei mewnosod, mae’r KegTracker™ yn dibynnu ar gyflenwad pŵer fydd yn rhedeg yn annibynnol ar hyd cylch oes y ceg i gyflawni gofynion y cymhwysiad. Fodd bynnag, mae pweru dyfeisiau symudol IoT heb gyflenwad pŵer sefydlog yn broblematig ac mae dyfeisiau’n aml yn dibynnu ar dechnolegau batri sydd â chylch oes a chyflenwad pŵer terfynadwy, sy’n ddrud ac yn anghyfleus i’w hamnewid, fel bod rheoli pŵer yn ystyriaeth uwchlaw popeth arall.

Gwelir cynaeafu ynni, y broses o gynaeafu symiau bychain o ynni amgylchynol o ffenomenâu amgylcheddol, fel ffordd o estyn oes weithredol systemau a wreiddiwyd, er bod cymhwyso systemau o’r fath yn heriol, gyda llawer o ffactorau dylunio ac amgylcheddol i’w hystyried.

Datrysiad

Gyda’i gilydd, bu ASTUTE 2020 a The Smart Container Company yn ymchwilio i’r ddau faes a nodwyd lle roedd angen i’r ddyfais KegTracker™ fedru gwneud cynnydd.

Trwy chwilio’n fanwl ar draws gwahanol ddulliau o fesur, cafwyd hyd i synhwyrydd oedd yn gallu cyflawni’r lefel ofynnol o fanwl gywirdeb o dan y centimetr, heb fod angen lefelau pŵer dros ben μW, oedd hefyd yn gallu cael ei gymhwyso i gyfyngiadau dylunio’r KegTracker™.

Deuwyd i’r casgliad hefyd mai cynaeafu ynni amledd radio (RF) neilltuedig neu amgylchynol gyda chynllun ymreolus-hybrid oedd yn cyfuno uwchgynwysorau â batrïoedd sylfaenol neu eilaidd fyddai’n fwyaf addas i fwyafu gweithrediad y KegTracker™. Ar hyn o bryd, mae’r KegTracker™ yn debygol o dreulio’r rhan fwyaf o’i amser o dan do, mewn amgylcheddau trefol (neu led-drefol) sy’n nodweddiadol yn meddu ar y lefelau helaethaf o ynni RF amgylchynol. Mae cylch bywyd y ddyfais hefyd yn golygu bod cymhwyso pŵer RF neilltuedig yn hawdd, a hefyd dechnegau rheoli pŵer deallus eraill.

Effaith

Mae’r prosiect cydweithredol rhwng The Smart Container Company ac ASTUTE 2020 wedi galluogi’r cwmni i wneud cynnydd yn gwaith ymchwil a datblygu a dod â’r cynnyrch yn nes at y farchnad.

Trwy oresgyn rhwystr sylweddol o ran mesur cyfaint, maent wedi gallu cyflymu datblygiad eu dyfais prototeip, gyda gwybodaeth ynghylch technegau cynaeafu ynni priodol yn dylanwadu ar iteriadau dylunio i’r dyfodol. Bydd y KegTracker™ yn darparu gwelededd data er mwyn datrys ac optimeiddio’r cynnyrch cwrw a chegiau sydd mewn cylchrediad, a thrwy hynny yn lleihau nifer y cegiau angenrheidiol a gollir, a chyfyngu ar y gofynion CO2, ynni a dŵr, fel bod modd sicrhau cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy ac economi gylchol lle cynhyrchir llai o wastraff (cwrw, dŵr, nwy ac ôl troed carbon).

Bydd y cynnyrch arloesol a chyffrous hwn yn chwyldroi’r diwydiant cegiau a chasgenni. Anogodd llwyddiant y cydweithio The Smart Container Company i fuddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesedd, ac o ganlyniad uniongyrchol i hynny, rhoddwyd hyder i fuddsoddwyr y bydd The Smart Container Company yn datblygu’r KegTracker™ ymhellach ac yn dod â’r ddyfais glyfar IoT i’r farchnad.