Cymharu Efelychu a Mapio Llif Gwerth yng Nghynllun Celloedd

Mae TEAM Precision Pipe Assemblies Ltd., yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o gydosodiadau gwaith pibellau manwl, cymhleth ar gyfer systemau gwresogi, awyru a chyflyru aer (HVAC) a chydrannau eraill sy’n trafod hylif ar gyfer y diwydiant moduron.

Mae TEAM Precision yn cynhyrchu dros bum miliwn o rannau bob blwyddyn; mae’r cydosodiadau pibellau hyn yn cael eu cyflenwi i amrywiaeth o gwmnïau, gan gynnwys enwau amlwg megis Aston Martin, Bentley, Denso (sy’n cyflenwi Toyota), yn ogystal â Calsonic Kansei yn Llanelli.
Roedd TEAM Precision yn ceisio cefnogaeth gydweithredol gan ASTUTE 2020 i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u galluoedd a’u capasiti gweithgynhyrchu presennol, a ffyrdd o ganfod gwelliannau posibl.

Heriau

Mae’r cydosodiadau pibellau sy’n cael eu gweithgynhyrchu gan TEAM Precision yn osodiadau pen wedi’u ffurfio neu eu peiriannu, sy’n cael eu manipwleiddio/plygu i fodloni gofynion y cwsmer. Mae’r cwmni o dan bwysau cystadleuol gan economïau cost isel a chwsmeriaid, er mwyn bodloni safonau ansawdd llym ochr yn ochr â chynnal costau uned isel. Roedd TEAM Precision yn awyddus i ganfod a gweithredu gwelliannau o ran amser trwybwn ac ansawdd a lleihau’r angen am archwilio parhaus, oedd yn cael effaith ar y llinell gynhyrchu ac yn ei gwneud yn llai effeithiol.

Roedd TEAM Precision eisoes wedi nodi meysydd allweddol yng ngweithrediadau technegol y busnes lle roedd angen gwelliannau. Diben y prosiect ymchwil ar y cyd, felly, oedd cefnogi’r cwmni i ddeall a gwerthuso gallu prosesu y systemau presennol. Er mwyn canfod a dilysu gwelliannau perfformiad, cymerodd y gwaith ymchwil gamau i wella gallu prosesu TEAM Precision a byrhau amserau arwain trwy’r prosesau gweithrediadau.

Datrysiad

Yn achos y meysydd a nodwyd eisoes, roedd TEAM Precision eisoes wedi dechrau cyflwyno newidiadau i’r llinell gynhyrchu:

  • Patrwm swyddogaethol i batrwm cellog er mwyn lleihau’r amserau trosglwyddo,
  • Rhestr eitemau a maint y sypiau

Fodd bynnag, nododd ASTUTE 2020 gyfleoedd allweddol ar gyfer mapio cyflwr presennol y gweithrediadau, ynghyd â chynllunio senario i’r dyfodol, defnyddio technegau gan gynnwys mapio llif gwerth (VSM) ac efelychiadau arwahanol o ddigwyddiadau ac optimeiddio’r broses weithgynhyrchu.

Bu TEAM Precision ac ASTUTE 2020 yn edrych ar ddata gwahanol gyfluniadau a chyfarpar o’r gell gynhyrchu er mwyn canfod anfanteision allweddol gostwng effeithiolrwydd y llinell gynhyrchu ac effaith y newidiadau hyn. Trwy ddefnyddio gwahanol fethodolegau cafwyd data i lywio unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Yn ogystal â chreu amserlenni deallus ar gyfer y llinellau cynhyrchu a nodwyd, cefnogodd ASTUTE 2020 TEAM Precision i arsylwi a chefnogi ymarferiad VSM er mwyn dogfennu, dadansoddi a gwella llif yr wybodaeth neu’r deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer eu cell gynhyrchu. Roedd creu a datblygu modelau o’r fath yn golygu bod modd i TEAM Precision archwilio senarios a dod i ddeall proses yn well.

Effaith

Trwy gyflwyno cell gynhyrchu newydd cafodd TEAM Precision gyfle i optimeiddio cyfluniad ac effeithlonrwydd cyfarpar a llafur. Gostyngwyd yr amserau arwain yn sylweddol, a rhyddhau lle ar lawr y ffatri, fel bod modd buddsoddi mewn cyfleusterau cynhyrchu newydd yn y dyfodol.

Trwy drosglwyddo gwybodaeth i’r ddau gyfeiriad roedd modd i beirianwyr TEAM Precision ganfod cyfleoedd i wella a gofynion o ran arbenigedd. Amlygodd yr ymchwil gymharol fod y prosesau hyn, trwy gyfuno rhagoriaeth weithredol ag efelychiadau a chanfod synergeddau, yn cydweddu â’i gilydd mewn amgylchedd diwydiant 4.0.

Ymhlith y manteision ychwanegol oedd yn deillio o’r cydweithio roedd:

  • Cyfraddau sgrapio is,
  • Allbynnau ynni is,
  • Trosiant uwch i’r cwmni,
  • Cyfle i brynu offer newydd,
  • Ailgyflunio’r llinell gynhyrchu.

Mae’r cydweithio hwn wedi golygu bod modd i TEAM Precision barhau i ddatblygu arbenigedd a phrofiad mewn maes lle nad oedd ganddynt lawer o wybodaeth, a bydd yn parhau i yrru cynhyrchiant gweithgynhyrchu TEAM Precision yn y dyfodol.