Profi a Gwerthuso Priodweddau Ffisegol System Gysgu a Chot Arloesol Modiwlaidd ar y Cyd (ROOF)

Mae Red Dragon Flagmakers (RDF) yn Abertawe yn weithgynhyrchydd creu baneri unigryw ac yn fusnes sy’n dilyn cenhadaeth gymdeithasol. Roedd RDF, a ymgorfforwyd yn ei fformat gwreiddiol yn 1969, a’i ailsefydlu’n fusnes oedd yn dilyn cenhadaeth gymdeithasol yn 2014, yn cynhyrchu fflagiau, baneri a byntin unigryw a chyffredinol, wedi’u pwytho’n draddodiadol a’u printio’n gyfoes, ac mae’n gweithgynhyrchu nwyddau tecstilau premiwm gwerth uchel, gan gynnwys yn fwyaf diweddar sgrybs a dillad gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyfraniad trwy ymgyrch codi arian i gartrefi gofal yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol.

Mae RDF wedi datblygu ROOF, cot â phadin gyda sach gysgu integredig, yn cynnwys cwcwll a phocedi cudd, a luniwyd i ffitio’n un pecyn ar ffurf bag ysgwydd ysgafn, cludadwy, i’w wisgo ar draws y corff. Mae ROOF yn ddilledyn allanol deallus i oroeswyr, ac yn galluogi’r sawl sy’n ei wisgo i fedru byw allan ym mhob tywydd, yn ddiogel ac yn gyfforddus.  Mae cynhyrchu’r Cotfag ROOF hwn yn cynnig cyfle i adeiladu bywyd gwell trwy hyfforddiant a chyflogaeth gynaliadwy yn RDF – er nad yw derbyn uned ROOF a manteisio ar y cyfle hyfforddi yn dibynnu’n uniongyrchol ar ei gilydd.

Trodd RDF at dîm ASTUTE 2020 yn PCYDDS er mwyn ymgysylltu â’u harbenigedd helaeth ym maes Deunyddiau Uwch a galluoedd profi confensiynol ac anninistriol (NDT). Y cais oedd cydweithio er mwyn optimeiddio ROOF a sicrhau bod y dilledyn yn addas at y diben ac yn perfformio o dan yr amodau mwyaf eithafol.

Yr Her

Roedd ROOF yn y cyfnod datblygu cynnar pan ddechreuodd ASTUTE 2020 ymwneud ag ef; ffocws RDF ar y pryd oedd darparu dilledyn addas at y diben oedd yn briodol ar gyfer tywydd anwadal ac amgylcheddau cymdeithasol. Priodweddau’r dilledyn unigryw hwn yw’r ffactor allweddol, ac mae’n cyfuno cot a sach gysgu y diffiniwyd eu safonau yn unigol. Roedd angen dadansoddi penodol, dethol defnyddiau, strwythur cyfansawdd ac ymchwilio i berfformiad er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn gynaliadwy ac yn effeithlon fel safon meincnod ynddo’i hun.

Datrysiad

Nod tîm ASTUTE 2020 yn PCYDDS oedd ymchwilio a darparu gwybodaeth ynghylch galluoedd inswleiddio’r tecstil cyfansawdd oedd yn cael ei ddefnyddio i weithgynhyrchu’r dilledyn ROOF.

Yr elfen gyntaf oedd sicrhau bod y deunydd cyfansawdd yn hyblyg, yn amddiffynnol, yn gyfforddus ac yn eithriadol o wydn yng nghyswllt ymosodiadau cyllyll.

Ystyriwyd safon arfwisg KR1-E1 heddlu’r Deyrnas Unedig ar gyfer mesuriadau dyfnder ac ardrawiad yn haenau’r dilledyn oedd yn gwrthsefyll trywanu ar gyfer sefyllfaoedd eithafol. Roedd angen cadarnhau’r defnydd cyfansawdd a ddewiswyd: pedair haen o wifrau wedi’u gwau am yn ail â phum lliain sylfaen aramid. Roedd angen i’r defnydd cyfansawdd wrthsefyll hanner egni ardrawiad llafn, fel bod gallu llawn i wrthsefyll trywanu’n dod yn sgîl opsiwn dyblu’r trwch i gyrraedd y safon.

Bu ASTUTE 2020 yn gweithio gyda’r tîm RDF yn ymchwilio i optimeiddio inswleiddio’r defnydd cyfansawdd trwy NDT. Defnyddiwyd y thermograffeg is-goch diweddaraf – techneg werthuso ac NDT – i amcangyfrif sut byddai wadiau cyfansawdd a grëwyd mewn ffyrdd gwahanol gan RDM (mewn cydweithrediad ag elfen gyfansawdd newydd oedd yn gwrthsefyll trywanu) yn darparu’r inswleiddio gorau.

Edrychwyd ar orffeniadau a lliwiau amgen i amcangyfrif galluoedd inswleiddio y tu mewn a’r tu allan i ddilledyn ROOF. Bu PCYDDS yn asesu lefelau gwlybaniaeth ac amsugno, symudiad, ffrithiant a gwydnwch yn wyneb dŵr a thân.

Effaith

Mae effaith y prosiect ymchwil hwn wedi arwain at dorri tir newydd pwysig i RDF, gan roi cyfle i’r busnes ddangos natur unigryw’r dilledyn a darparu tystiolaeth feincnodi bod y cyfuniad o ddefnyddiau yn bodloni gofynion amgylcheddol a chymdeithasol llym.

Bydd newydd-deb y cynnyrch yn galluogi RDF i roi gwelliannau dylunio ar waith er mwyn sicrhau bod y dilledyn yn:

  • Gallu gwrthsefyll dŵr, tân a thrywanu
  • Addas ac yn ddiogel i’w wisgo pan fydd y tymheredd yn cyrraedd y rhewbwynt
  • Ysgafn ac yn wydn.

Mae dull unigryw PCYDDS o archwilio safonau a dulliau wedi golygu bod gan RDF fecanwaith i hybu’r cynnyrch a helpu gyda dethol deunyddiau, strwythur cyfansawdd a meincnodi dadansoddi perfformiad.

Fel busnes sy’n dilyn cenhadaeth gymdeithasol, nod penodol RDF gyda ROOF yw cefnogi pobl gyda’u diogelwch personol a’u gallu i ymdopi wrth fyw yn yr awyr agored ym mhob tywydd, yn ogystal â chyflawni amcan hirdymor o dyfu’r busnes er mwyn galluogi pobl i ddianc rhag magl budd-daliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth am dâl isel a digartrefedd.

Mae datblygiad ROOF hyd yma wedi arwain at gyflogi tri o wniadwyr ymroddedig sy’n cynorthwyo’r Arweinydd Cynhyrchu i ddatblygu a chynhyrchu ROOF.
Mae ROOF yn gynnyrch arbenigol i RDF ac fe allai newid y sefyllfa i unigolion a chymunedau yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y byd trwy achub bywydau.