Menter Gwobrau’r Frenhines yn rhagweld Twf a Gwelliant yn sgîl trefniant Ymchwil ar y Cyd rhwng Diwydiant ac Academia

Markes International, sydd â’u pencadlys yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yw un o brif ddatblygwyr a gweithgynhyrchwyr y byd ar gyfer offerynnau gwyddonol datsugno thermol a sbectrometreg más amser hedfan. Mae galluoedd mewnol o ran datblygu meddalwedd uwch yn cydweddu â datrysiadau caledwedd Markes International, gan feddiannu cilfach dechnolegol sy’n rhan o ddiwydiant gwerth biliynau lawer o ddoleri. Mae gan Markes International hefyd bresenoldeb ar draws y byd, gyda swyddfeydd tramor yn Sacramento, Frankfurt a Shanghai sy’n cyflogi cyfanswm o 150 o weithwyr.

Mae’r cwmni wedi bod yn gwella sut mae cemegion organig hybrin yn cael eu dadansoddi ers 1997, gan ganolbwyntio ar waith Ymchwil a Datblygu a datrysiadau/cymwysiadau wedi’u teilwra. Er bod y gweithgynhyrchu, y systemau cadwyn gyflenwi a’r prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd wedi gweithio’n dda i’r cwmni, gan ganiatáu twf cyflym, roedd angen i’r cwmni fynd i’r afael â’r newid sylweddol sy’n gysylltiedig â’r targed twf hwn.

Mae’r prosiect hwn gydag ASTUTE 2020 wedi helpu i wella gwydnwch systemau gweithgynhyrchu Markes International a’u cadwyn gyflenwi trwy gymhwyso methodolegau newydd megis Cadarn Ystwyth Diwastraff Hyblyg (RALF) a galluoedd deinamig. Mae disgwyl i’r ymchwil fydd yn parhau fel rhan o’r prosiect hwn arwain at well reolaeth ar stocrestri trwy weithredu system ragfynegi well fydd yn addas ar gyfer llyfr archebion cymysg o eitemau cyflym, araf a rhai sy’n cael eu gwerthu’n anfynych.

Heriau

Ar ôl cwrdd â thîm ASTUTE 2020 mewn digwyddiad rhwydweithio busnes yn 2017, dechreuodd tîm Markes ar y cydweithio trwy adolygu eu hanghenion busnes trwy archwiliad sganio cyflym, a nododd y byddai tri amcan clir i’r prosiect;

  • Gwella gwydnwch y gadwyn gyflenwi,
  • Optimeiddio amserlenni cynhyrchu, a
  • Gwella’r rheolaeth ar stocrestri a rhagfynegi.

Mewn llawer o ddiwydiannau a chadwyni cyflenwi mae stocrestri yn angenrheidiol er mwyn dileu unrhyw anghydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw. Ond maent hefyd yn cynrychioli baich economaidd sylweddol, gan fod cryn gyfalaf ynghlwm ynddynt.  

Nod cynllunio cynhyrchu effeithiol a rheoli stocrestri mewn cadwyn gyflenwi yw gofalu bod gennych y rhestr gywir yn y man cywir. Fodd bynnag, mae rheoli cynhyrchu a stocrestri mewn cadwyni cyflenwi cymhleth yn nodweddiadol anodd, a gall penderfyniadau gael effaith arwyddocaol ar lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid a chost y gadwyn gyflenwi ar draws y system. O ganlyniad, mae’r prosiect cydweithredol hwn yn edrych ar yr her mewn modd cyfannol trwy archwilio cadwyni cyflenwi, amserlenni cynhyrchu a rheolaeth ar stocrestri.

Datrysiad

Nodau’r prosiect oedd:

  • Gwella gwydnwch cadwyn gyflenwi Markes International trwy ddefnyddio methodolegau newydd megis RALF; ymchwilio i nodweddion ansawdd hanfodol a’u canfod; gwella cysylltiadau llif gwybodaeth; prosesau ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ar gynnyrch sydd â golwg ar y gadwyn gyflenwi.
  • Optimeiddio amserlenni cynhyrchu trwy optimeiddio amcanion lluosog ac efelychu llif y broses ac amserlenni tasgau gwaith oddi mewn i amgylchedd gweithlu sgiliau lluosog.
  • Gwella’r rheolaeth ar stocrestri trwy ddefnyddio dulliau rheoli stocrestri uwch, trwy systemau a pholisïau rhagfynegi, gan gynnwys rhagfynegi ar sail barn.

Effaith

Mae’r prosiect wedi cefnogi amcan y Cwmni, sef gwireddu allbwn yn unol â thwf gwerthiant sy’n fwy na 30% y flwyddyn yn ystod y tair blynedd diwethaf. Nodwyd hefyd fod capasiti wedi dyblu, gan gynnal cyfraddau sydd 5-10% yn uwch na’r refeniw gwerthiant o flwyddyn i flwyddyn. Rhoddwyd hyn ar waith trwy:

  • Nodi a dileu cyfyngiadau allweddol ar gynhyrchu.
  • Cyflwyno pum aelod newydd o staff technegol yn y cyfleuster yn RhCT mewn meysydd allweddol o’r broses gyflawni.
  • Targedu buddsoddiad y gwariant cyfalaf sy’n ceisio cynnal y ddau gam gweithredu blaenorol.

Mae Markes International wedi cychwyn ar broses radical o ailddatblygu eu cadwyn gyflenwi, gan ddilyn strategaeth a ddatblygwyd yn sgîl y cydweithio hwn oedd yn ceisio cyflawni cronfa gyflenwi gydnerth yn y tymor byr i ganolig. Mae’r cwmni wrthi ar hyn o bryd yn adolygu algorithmau rhagfynegi a ddatblygwyd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, a fydd yn helpu’r cwmni i gynllunio gwaith adeiladu ar gyfer eitemau gwasanaeth a ddefnyddir yn aml, yn anaml, neu ar lefel anhysbys.  

Mae’r cwmni hefyd wedi cychwyn ar broses hirdymor o newid diwylliant, gan gyflwyno’r cysyniad o welliant parhaus a chreu amser a chyfleoedd i weithwyr gyfranogi a rhannu gwybodaeth.
Mae’r cydweithio hwn wedi galluogi Markes International a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cysylltiad agosach, fel bod cyfleoedd i israddedigion fod yn rhan o brosiectau diwydiannol. Mae trafodaethau ar waith hefyd ar hyn o bryd i gynnal prosiect PhD mewn cydweithrediad â’r Brifysgol, ac mae disgwyl i hynny gychwyn ddiwedd 2019.

Ymhlith llwyddiannau busnes eraill Markes mae derbyn dwy o Wobrau Menter nodedig y Frenhines yn y categorïau ‘Arloesedd’ a ‘Masnach Ryngwladol’ yn 2019.