Cydweithrediad a Leolir yn Abertawe’n Arwain at Arloesedd ym Maes Ynni’r Llanw

Mae Marine Power Systems (MPS), yn Abertawe, yn datblygu Trawsnewidydd Ynni Tonnau i fynd i’r afael â heriau echdynnu ynni o’r tonnau am gost ymarferol. Mae angen ymchwil gyfrifiadurol ar strwythur yr arnofyn i ganiatáu i MPS asesu addasrwydd y cydrannau a lleiafu risg y cyfnodau adeiladu a phrofi.
Mae ASTUTE 2020 yn gweithio gydag MPS i gynhyrchu modelau cyfrifiadurol addas gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan MPS, ynghyd â chynnal dadansoddiad elfen gyfyngedig ar y strwythur.

Mae’r WaveSub yn cynnwys arnofyn cipio pŵer, sy’n cael ei glymu wrth adweithydd mawr, tebyg i ysgraff â llinellau hyblyg lluosog.

Mae’r llinellau wedi’u cysylltu â system tynnu pŵer hydrolig a ddefnyddir i gipio ynni o’r symudiad cymharol rhwng yr arnofyn a’r adweithydd, sydd wedyn yn cael ei drosi’n drydan. Mae arwyddion y gallai’r ddyfais arfaethedig gystadlu’n llwyddiannus â thechnolegau adnewyddadwy eraill sydd ar gael.

Heriau – Ynni Tonnau

Mae’r ddyfais cywain ynni arfaethedig yn dibynnu ar donnau’r môr, nad ydynt yn diflannu pan fydd y gwynt yn peidio â chwythu, gan gynnig lefel o gysondeb a dwysedd pŵer cyfartalog (o ryw 2-3 kW/m2) uwch nag eiddo’r gwynt (0.5 kW/m2) ac ynni solar (0.1-0.3 kW/m2).

Mae MPS wedi cynnal profion môr graddedig a phrofion tanc, ac wedi ceisio cefnogaeth gan ASTUTE 2020 ar gyfer modelu cyfrifiadurol y ddyfais pan fydd wedi’i throchi yn nŵr y môr.
Mae’r arnofyn yn cael ei weithgynhyrchu’n lleol gan gwmni preifat (Camplas Technology Ltd.). Mae wedi’i greu o ddeunydd cyfansawdd gwydr wedi’i atgyfnerthu a’i ddirwyn yn ddi-fwlch, gyda phlatiau bolltio dur wedi’u gwau i mewn i waliau’r arnofyn. Mae’r arnofyn yn cael ei gysylltu ag ysgraff (gan gynnwys y dyfeisiau cywain ynni) â cheblau, ac mae tyniant y llinell glymu yn ganlyniad uniongyrchol i hynofedd net yr arnofyn ar yr arnofyn o dan y dŵr.

Datrysiad – Dadansoddiad Rhifyddol

Mae dadansoddiad elfen gyfyngedig wedi amlygu’r ffaith bod y WaveSub yn gallu ymdopi â’r grymoedd allanol a brofir o dan amodau gwaith. Bydd canlyniadau’r cydweithio hwn yn caniatáu hyder bod y dyluniad yn addas ar gyfer y cymhwysiad byd cyntaf arfaethedig ac yn amlygu gwelliannau y gellid eu gwneud i’r ddyfais graddfa lawn.

O ganlyniad i gydweithio ag ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Abertawe ar y WaveSub, cyhoeddwyd mai MPS oedd enillwyr y categori gwobr Ymchwil a Datblygu yng ngwobrau Partneriaeth Busnes ac Addysg ‘Insider’ yn 2016 yng Ngwesty’r Marriott Caerdydd. Roedd yn amlwg bod y cydweithio lleol rhwng academia a diwydiant, ynghyd ag effaith fyd-eang bosibl y Trawsnewidydd Ynni Tonnau wedi apelio at y beirniaid.

Effaith

Mae datblygiad WaveSub yn enghraifft ardderchog o gydweddu gwahanol lifoedd ariannu: mae cefnogaeth trwy ASTUTE 2020 (Ymchwil ac Arloesedd yr ERDF) ynghyd â £2.5M o arian ERDF (Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni) a £200k o gyllid catalydd ynni gan Innovate UK ar gyfer y gwaith modelu, dylunio, adeiladu, profi a dilysu wedi galluogi MPS i sicrhau bod eu dyfais yn symud ymlaen o gysyniad i brototeip.

Mae MPS bellach wedi cwblhau WaveSub graddfa 1:4, a bydd yn cael ei brofi o dan amodau labordy, ac yna’n ddiweddarach o dan amodau môr. Mae’n gam pwysig ar y daith tuag at fasnacholi’r Trawsnewidydd Ynni Tonnau.

Mae gan dechnoleg y WaveSub sy’n cael ei ddatblygu gan MPS botensial aruthrol i gyfrannu at dargedau diogelu ynni (pŵer tonnau yn cynhyrchu 10% o drydan y byd erbyn 2050) a gallai leihau’r ddibyniaeth ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy na ellir eu rhagfynegi.

Yn sgîl y datblygiadau parhaus yn MPS ac oddi mewn i’r sector ynni tonnau, mae MPS wedi ehangu eu gweithlu trwy benodi peiriannydd ychwanegol, a fydd yn cynorthwyo gyda datblygiadau pellach i’r WaveSub.

O ganlyniad i’r cydweithrediad hwn a buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, mae MPS nawr wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol a byddant yn cyflwyno prototeip Graddfa 1:4 o’r WaveSub ym mis Hydref.

Mae fformat testun cyfoethog o’r fideo ar gael yma