Sefydlwyd Lyte Industries (Cymru) Cyf. yn 1947, ac maen nhw wedi bod yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o ysgolion a chyfarpar mynediad alwminiwm a ffibr gwydr ers dros 65 mlynedd. Cwmni o Abertawe yw Lyte, ac maen nhw’n falch mai nhw yw un o’r ychydig gwmnïau sy’n dal i weithgynhyrchu cyfarpar mynediad fel ysgolion yn y Deyrnas Unedig. Mae eu marchnad bresennol yn cwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys cwsmeriaid pwysig fel BT, Sky, Screwfix a Centrica.

Mae ansawdd a pherfformiad amrywiaeth Lyte o gynnyrch yn dibynnu’n bennaf ar ansawdd y gwaith paratoi a’r gosod cyn i’r weldio gychwyn, ac mae eu holl gynnyrch wedi’u hardystio i safonau perthnasol BSI. Ar sail trefniant cydweithio ymchwil blaenorol gydag ASTUTE 2020, buddsoddodd Lyte ryw £300,000 yn ddiweddar mewn llwyfan weldio robotig i gyflymu’r cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch, gan arddangos eu hymrwymiad i gadw gweithgynhyrchu yn Ne Cymru.

Nododd Lyte ac ASTUTE 2020 dair her ymchwil fel rhan o brosiect ymchwil sawl cam lle manteisiwyd yn llawn ar arbenigedd ASTUTE 2020 mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, Technoleg Deunyddiau Lefel Uwch, a Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol, er mwyn optimeiddio’r prosesau cyn weldio, y gosodiadau weldio robotig, a’r protocol rheoli ansawdd.

Heriau

Roedd Lyte yn profi anawsterau wrth geisio optimeiddio’r broses weldio robotig, ac roedd hynny’n arwain at lawer o weldio diffygiol, oedd yn gwastraffu deunydd ac amser. Elfennau newydd a heriol y prosiect ymchwil hwn oedd rhoi technegau cyfun ar waith i ddatblygu ansawdd yr asiadau, gan ganolbwyntio ar y cynnyrch lle cafodd Lyte y trafferth mwyaf i integreiddio’r weldio robotig i’r broses weithgynhyrchu:

  • Adolygu technoleg gyfredol Prosesau Weldio Robotig (Cyn, yn Ystod ac ar Ôl Weldio);
  • Deall rheolaeth clampiau jig i leihau goddefiant yn y broses o baratoi ar gyfer weldio;
  • Adolygu siapau optimwm smotiau weldio ar gyfer geometreg gwahanol asiadau weldio;
  • Optimeiddio paramedrau weldio yng nghyswllt gwahanol batrymau weldio;
  • Datblygu system reoli lŵp caeedig ymwybyddiaeth ofodol ar gyfer proses weldio robotig MIG, gyda chefnogaeth model cyfrifiadurol.

Datrysiad

Amlygodd casgliad y trefniant ymchwil hwn ar y cyd fod angen gwella technolegau cynhyrchu Lyte a’u cynnyrch trwy berffeithio’r gwaith paratoi ar gyfer weldio ar sail dealltwriaeth gadarn o feteleg aloiau alwminiwm a lefel uwch o awtomeiddio oedd yn integreiddio robotiaid clyfar lefel uwch a thechnoleg synwyryddion.

Nododd yr ymchwil welliannau yn ystod y camau cyn weldio a weldio trwy ganfod y paramedrau amlycaf oedd yn uniongyrchol gysylltedig ag ansawdd y weldio, ac yn sgîl hynny llwyddwyd i wella technolegau cynhyrchu Lyte ac ansawdd cynnyrch Lyte.

Arweiniodd ymchwil bellach ar fodelu cyfrifiadurol i optimeiddio paramedrau’r broses weldio a fyddai’n cael eu cymhwyso i’r weldiwr robotig at well dealltwriaeth o’r llwyfan weldio robotig, a hynny o dan amrywiaeth o amodau profi.

Effaith

Mae ymrwymiad Lyte a’u gwaith yn gweithredu argymhellion canlyniadau’r ymchwil hon ar y cyd bellach wedi cael eu trosi’n arfer da a ddilynir gan Lyte wrth weldio. Mae ymrwymiad Lyte a thîm ASTUTE 2020 wedi arwain at broses helaeth o gyfnewid gwybodaeth a fu’n fuddiol o’r ddeutu.

O ganlyniad uniongyrchol i’r trefniant cydweithio, mae Lyte wedi:

  • Ehangu ystod eu cynnyrch presennol a chyflwyno dau gynnyrch newydd i’r farchnad (Lytepod Podium a Stairlyte Stairwell Tower);
  • Creu saith swydd newydd yn adrannau gweithrediadau ac ansawdd Lyte;
  • Buddsoddi mewn peiriant profi gwydnwch i leihau cost ardystio cynnyrch; mae bwriad i fuddsoddi ymhellach er mwyn caffael peiriant torri laser;
  • Llwyddo i weithredu’r Safon Brydeinig newydd (BS EN 131), sy’n cydymffurfio â safon Ewrop.

Yn y pen draw bydd manteision y prosiect cydweithredol hwn yn caniatáu i Lyte symud eu systemau gweithgynhyrchu ymlaen er mwyn gwerthuso a gwella effeithlonrwydd, ansawdd a darpariaeth, a fydd yn arwain at fwy o refeniw gwerthiant. Dyma fydd un o’r ffyrdd i Lyte fuddsoddi ymhellach a gwella is-adran weldio’r busnes er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor i’r cwmni yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Mae fformat testun cyfoethog o’r fideo ar gael yma