Brother Industries (U.K.) Ltd. yn Lansio Cetris Inc a Gynhyrchwyd â Phlastig a Ailgylchwyd yn sgîl Trefniant Cydweithio rhwng Diwydiant ac Academia

Mae Brother Industries Ltd. yn gwmni electroneg a chyfarpar electronig amlwladol o Japan, sydd â phencadlys yn Nagoya, Japan, a 37,000 o gyflogeion ar draws y byd.

Yn Wrecsam, Gogledd Cymru, y mae Brother Industries (U.K.) Ltd. (“BIUK”), sydd ar y blaen yng ngweithgareddau ailgylchu Grŵp Brother ac yn cynhyrchu nwyddau traul argraffu a mowldiadau plastig ar gyfer ystod amrywiol o electroneg diwydiannol a defnyddwyr. Mae gan BIUK system dychwelyd am ddim hynod ddatblygedig ar gyfer Cetris Inc diwedd oes. Mae cetris a ddychwelir gan gwsmeriaid yn cael eu gweithgynhyrchu o’r newydd, ac mae unrhyw ddeunyddiau’n cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

Mae’r cwmni’n mabwysiadu egwyddorion ‘Economi Gylchol’, gan roi’r cwmni ar flaen y gad fel gweithgynhyrchydd egwyddorol a chynaliadwy o gydrannau plastig, a dod yn Ganolfan Technoleg Ailgylchu (RTC) ar gyfer Grŵp Brother yn fyd-eang. Bu ASTUTE 2020 yn cefnogi BIUK i ymchwilio i anawsterau technegol defnyddio deunyddiau Polystyren Effaith Uchel (HIPS) a ailgylchwyd.

Heriau

Mae’r ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddichonolrwydd cynnyrch plastig a ailgylchwyd yn cyflwyno rhai dadleuon sy’n gwrthddweud ei gilydd. O’r persbectif hwn, bu’r prosiect ymchwil yn rhoi sylw i’r cwestiynau canlynol:

  1. A all BIUK ailgylchu deunyddiau Polystyren Effaith Uchel a adferwyd o’u cynnyrch diwedd oes eu hunain, i greu cynnyrch newydd (ailgylchu dolen gaeedig)?
  2. Os felly, sawl gwaith gall HIPS gael eu hailgylchu cyn i unrhyw newid yn eu priodweddau droi’n annerbyniol?
  3. Oes modd ailgylchu HIPS a dderbynnir o wahanol ffynonellau (ailgylchu dolen agored), gan fod llawer o briodweddau cyferbyniol gan y rhain?

Datrysiad

Bu ASTUTE 2020 yn gweithio gyda Brother Industries (U.K.) Ltd. i ymchwilio i lefel y diraddiad mewn amrywiaeth o briodweddau deunyddiau er mwyn gwarantu bod ansawdd y deunyddiau plastig a ailgylchwyd yn cael ei gynnal, gan gymryd i ystyriaeth y newidiadau o ran priodweddau macrosgopig a microsgopig.

Yn yr achos arbennig hwn, cafodd yr effeithiau canlynol eu harchwilio a’u dadansoddi:

  1. Cylchoedd lluosog o HIPS ar y priodweddau tynnol, effaith a thermol
  2. Priodweddau triniaeth UV er mwyn mesur canlyniad y cyfnod a dreuliodd y cynnyrch yn yr haul ar ddiraddiad y deunyddiau.

Cadarnhaodd yr ymchwil nad yw ailbrosesu HIPS am hyd at wyth cylch prosesu yn cael effaith niweidiol ar briodweddau’r deunyddiau, na chwaith hyd at 500 awr di-dor o dan olau UV. Gellir egluro’r mathau hyn o ymddygiad gan amlygrwydd adweithiau trawsgysylltiol sy’n gallu hybu dwysedd trawsgyswllt uwch neu adwaith impio yn y cyfnod elastomerig sy’n digwydd fel rhan o’r mowldio chwistrellu.

Mae’r trefniant cydweithio unigryw rhwng BIUK ac ASTUTE 2020 wedi profi na fydd cyfuno graddau gwahanol o HIPS yn lleihau priodweddau’r cyfuniad yn ddramatig a bod modd i BIUK ymgorffori gwahanol ddosbarthiadau o HIPS a dderbyniwyd o wahanol ffynonellau i’w defnyddio ar eu safle ar gyfer cynhyrchu pellach.

Effaith

Mae’r trefniant cydweithio wedi cynyddu dealltwriaeth y ddau barti o ddeunyddiau a ailgylchwyd ac wedi arwain at gyfnewid gwybodaeth buddiol ynghylch prosesau a thechnoleg rhwng BIUK a thîm ASTUTE.

Nawr gall BIUK bontio rhwng cynnyrch a wneir ar hyn o bryd â resin newydd sbon a resin a ailgylchwyd, gydag effaith amgylcheddol uniongyrchol, trwy leihau’r defnydd o ddeunyddiau crai, arbed ynni a lleihau allyriadau CO2 o weithgynhyrchu a thirlenwi. O ganlyniad, bydd hynny’n cyfrannu at dargedau’r Llywodraeth, Cytundeb Paris a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Yn dilyn profion cynhyrchu ac ansawdd, mae’r cetris a gynhyrchir trwy ddefnyddio cetris o ddeunydd a ailgylchwyd bellach yn y broses gynhyrchu lawn, ac o ganlyniad i’r trefniant cydweithio, mae disgwyl gwneud yr holl getris o ddeunydd a ailgylchwyd ac ehangu hynny i gynnyrch eraill megis argraffwyr Brother, gan gryfhau proffil BIUK RTC yn ogystal â strategaeth hirdymor y cwmni ar gyfer gweithredu yng Ngogledd Cymru.