Mae methiant colofnau goleuo oherwydd lludded, o ganlyniad i ddirgryniadau a achosir gan wynt a thraffig, wedi cael sylw arbennig yn y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy a mwy o oleuadau fethu’n gynt na’r disgwyl ar safleoedd sy’n agored i’r tywydd. Mae dyluniadau sy’n cynnwys weldiadau’n wynebu mwy o risg oherwydd newidiadau i adeiledd y defnydd. Mae’r Aluminium Lighting Company (ALC) yn arwain y farchnad yn y DU ar gyfer colofnau goleuo Alwminiwm sydd wedi’u hallwthio’n llawn. Drwy roi’r gorau i ddefnyddio weldiadau yn eu colofnau, mae’n bosibl y gellid gwella eu perfformiad o ran lludded ac ymestyn oes y colofnau.

Bydd yr astudiaeth bresennol yn ymchwilio i sut i nodweddu ymddygiad lludded cylchred isel y colofnau goleuo alwminiwm drwy gynnal Dadansoddiad Elfennau Cyfyngedig (FEA) yn seiliedig ar brofi lludded cylchred isel ac ar werthusiad o ficroadeiledd y colofnau. Hefyd, bydd ASTUTE yn cynorthwyo’r cwmni i ddadansoddi’r gosodiadau a’r data mewn profion maes gwirioneddol ar golofnau y mae’r gwynt yn chwythu arnynt i ddarparu data lludded amser real ar gyfer dadansoddiad FEA.

Heriau

Mae’r gwaith ar y cyd o edrych ar ddefnyddio FEA, data prawf lludded a gwerthusiad o’r microadeiledd wedi dangos bod y dulliau hyn yn ddichonadwy ar gyfer cynnal gwerthusiad o ymddygiad colofnau ALC pan fo llwyth mawr ar eu hadeiledd. Mae’r gwaith modelu FEA wedi dangos rhannau o’r golofn lle gallai fod lludded yn broblem. Fodd bynnag, ar ôl archwiliad metelegol gwelwyd bod gan y colofnau sydd wedi’u hallwthio’n llawn ficroadeiledd unffurf, a dangosodd yr FEA ddiriannau llawer is na throthwy’r derfan lludded. O ganlyniad, mae colofnau’r ALC yn dda am wrthsefyll cracio oherwydd lludded dros oes y golofn.

Effaith

Mae dadansoddiad FE wedi dangos bod colofnau wedi’u pwyso’n gallu gwrthsefyll lludded yn well na cholofnau wedi’u weldio. Mae’r diriannau a gafodd eu hefelychu yn y golofn wedi dangos y bydd oes lludded y golofn yn hwy nag oes ddymunol y golofn. Mae hyn yn golygu y gellir gosod y colofnau hyn yn yr amgylcheddau mwyaf heriol gyda diogelwch yn brif ystyriaeth. Gall yr ALC hefyd ddefnyddio’r dulliau hyn yn hyderus yn y dyfodol.