Child playing with bubbles
Dr Zigs logo

Deall priodweddau hydoddiannau polymeraidd dyfrllyd fel bod modd datblygu’r cynnyrch a chynhyrchu ar raddfa uwch yn y dyfodol.

Gweithgynhyrchydd yng Ngogledd Cymru yw Dr Zigs, ac mae’n creu cymysgedd swigod eco-gyfeillgar, diwenwyn, o safon uchel , sy’n cael ei werthu fel teganau i blant ar-lein ac mewn allfeydd manwerthu ar draws y byd. Mae’r gymysgedd swigod anferth yn cyfuno polymerau a ddewiswyd i gryfhau priodweddau dymunol megis ystwythder, hwylustod ffurfio swigod, nodweddion hunan-wellhad, a lliwiau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi cael mwy o afael ar y farchnad, ac o ganlyniad roedd angen iddynt gynhyrchu ar raddfa sylweddol uwch er mwyn ymateb i’r galw ac ymuno â marchnadoedd newydd. Bu ASTUTE 2020+ yn cydweithio â’r cwmni ar y daith hon, gan gyfrannu dealltwriaeth ac atebion ar gyfer ystod eang o heriau’r broses weithgynhyrchu ac ymchwilio ar y cyd er mwyn gwella fformwlâu eu cynnyrch.

Heriau

Pan oedd Dr Zigs yn cynhyrchu ar raddfa fechan, roedd llawer o’u prosesau gweithgynhyrchu yn cael eu cyflawni â llaw, gan gynnwys cymysgu, potelu a phrofi ansawdd. Byddai cynyddu’r capasiti cynhyrchu gan ddefnyddio’r prosesau hyn yn galw am fwy o weithwyr a lle, a fyddai’n cynyddu’r amser cynhyrchu a’r costau. Er y gallai awtomeiddio’r broses fod yn ddewis arall, roedd y gweithdrefnau cymysgu cymhleth a’r cynnyrch newydd oedd yn cael eu datblygu yn cyfyngu ar yr opsiwn hwn.

Graph
Dr Zigs bubble machine
Dr Zigs bubbles in testing

Datrysiad

Roedd ymdrechion blaenorol gan y cwmni i fecaneiddio’u proses wedi peryglu safon y gymysgedd swigod, gan ei bod yn tueddu i dorri ac yn sensitif dros ben i halogyddion. O ganlyniad, roedd yn hanfodol bod y tîm cydweithredol yn deall priodweddau glud-elastig cymhleth yr hydoddiant polymeraidd cyn bod modd awtomeiddio’r broses.

Rheoleg Deunyddiau

Dechreuodd y prosiect ymchwil ag adolygiad helaeth o’r llenyddiaeth o ran hydoddiannau polymeraidd penodol, a dilynwyd hynny gan ddisgrifiad llawn o nodweddion cymysgedd swigod Dr Zigs a chynnyrch eu cystadleuwyr. Bu’r cwmni ac ymchwilwyr ASTUTE hefyd yn mynd ati ar y cyd i nodi ystod o hydoddiannau polymeraidd newydd i’w dadansoddi.

Cynhaliodd ASTUTE 2020+ dreialon lefel uwch ar gyfer y gwahanol fformwlâu swigod mewn labordai rheoleg hylifau, a dadansoddi priodweddau’r hylifau gan ddefnyddio rheomedr AR-G2 straen reoledig gan TA Instruments, oedd â geometreg platiau paralel a silindrau consentrig. Cynhaliwyd arbrofion hefyd i gysylltu gludedd â pherfformiad y cynnyrch fel metreg rheoli ansawdd – roedd hyn o gymorth i wella’r fformwla, ac yn fodd i ganfod unrhyw heriau posibl wrth gynyddu’r raddfa.

Ymchwiliwyd i’r priodweddau glud-elastig, a llywiodd y canlyniadau broses o ganfod offer addas ar gyfer systemau wedi’u hawtomeiddio a allai ddisodli’r gweithdrefnau presennol, oedd yn cael eu gwneud â llaw. 

Er mwyn profi cadernid y canfyddiadau a’r argymhellion uchod, datblygodd Dr Zigs alluoedd rheoli ansawdd mewnol oedd yn adlewyrchu defnydd byd go iawn yn well, ac yn galluogi’r tîm i fesur newidiadau ym mherfformiad y cynnyrch yn fwy manwl gywir.

Bubbles in testing at Dr Zigs facility
Graphs analysing material properties

Effaith

Bu ASTUTE yn gweithio’n agos gyda’r tîm yn Dr Zigs i ymchwilio i’r paramedrau oedd yn effeithio ar eu proses weithgynhyrchu, a nodi atebion fyddai’n rhoi hwb i gynhyrchiant ac yn golygu bod modd awtomeiddio a chynhyrchu ar raddfa fwy yn y dyfodol – roedd hyn yn cynnwys cael hyd i gynhwysion cynaliadwy, archwilio opsiynau newydd o ran cyfarpar, ymdrin â heriau cymysgu, a gwella fformwla’r cynnyrch.

Trwy gydweithio roedd modd i Dr Zigs symud ymlaen yn gyflym i ddatblygu sawl fformwla cynnyrch newydd a chanfod gwendidau yn eu prosesau gweithgynhyrchu a rheoli ansawdd cyfredol, gan gyflawni gwelliannau. 

O ganlyniad i weithio gydag ASTUTE, mae’r cwmni wedi meithrin hyder yn eu galluoedd ymchwil a datblygu eu hunain, a bellach mae ganddyn nhw’r wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i symud yn hyderus i gyfnod cynhyrchu ar raddfa fawr.