Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi ei banel beirniadu ar gyfer 2021.

Awdur arobryn, cyhoeddwr a chyfarwyddwr gwyliau llenyddol yw Namita Gokhale. Mae hi’n awdur ugain o lyfrau, gan gynnwys deg o lyfrau ffuglen. Gokhale yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddol Jaipur a lleolir ei nofel ddiweddaraf, Jaipur Journals, yng nghanol bwrlwm a miri'r ŵyl hon. Bydd HopeRoad Publishing yn cyhoeddi Jaipur Journals yn y DU yng ngwanwyn 2021.
Gokhale yw cyfarwyddwr Yatra Books, gwasg sy’n arbenigo mewn cyfieithiadau. Rhoddodd sefydliad Assam Sahitya Sabha Wobr Genedlaethol Ganmlwyddiannol dros Lenyddiaeth i Gokhale yn Guwahati yn 2017. Enillodd ei nofel Things to Leave Behind Wobr Llenyddiaeth Sushila Devi ym mis Ionawr 2019 yn ogystal â Gwobr Lyfrau Dyffryn Geiriau ar gyfer y ffuglen orau yn Saesneg. Dilynwch hi ar drydar @NamitaGokhale. Namita yw cadeirydd y Panel Dyfarnu.

Syima Aslam yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford (BLF), a sefydlwyd ganddi yn 2014. Gan fod yn ddathliad llenyddol a diwylliannol sy’n para am 10 niwrnod, mae’r BLF yn croesawu dros 70,000 o ymwelwyr i Bradford bob blwyddyn a chaiff ei dathlu fel yr ŵyl lenyddol fwyaf economaidd-gymdeithasol ac amrywiol o ran cenedl yn y Deyrnas Unedig.
O dan gyfarwyddiaeth Syima, mae’r BLF wedi cael effaith sylweddol ar dirwedd lenyddol y wlad a elwir yn ‘un o’r gwyliau mwyaf arloesol ac ysbrydoledig yn y Deyrnas Unedig’, gan ddod â llenyddiaeth o bob genre ynghyd, hyrwyddo rhwyddineb rhyng-ddiwylliannol, rhoi llwyfan ar gyfer lleisiau ar y cyrion, ac adlewyrchu wyneb newidiol Prydain gyfoes trwy raglen sy’n dathlu amrywiaeth, empathi, a rhagoriaeth artistig.

Llyfr cyntaf Stephen Sexton, If All the World and Love Were Young, oedd enillydd Gwobr Forward ym maes Casgliad Cyntaf Gorau yn 2019 a Gwobr Shine / Strong ym maes Casgliad Cyntaf Gorau. Enillodd Wobr E.M. Forster Academi Celfyddydau a Llenyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2020. Ef oedd enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol y DU yn 2016 ac roedd ymhlith enillwyr Gwobrau Eric Gregory yn 2018. Mae’n addysgu yng Nghanolfan Farddoniaeth Seamus Heaney ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast.
[credyd y llun i Michael Weir]

Joshua Ferris yw awdur llwyddiannus tair nofel a chasgliad o straeon byrion, The Dinner Party. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, enillodd Wobr Discover Barnes and Noble a Gwobr PEN/Hemingway. Cafodd ei roi ar restr fer Gwobr Man Booker, enillodd Wobr Ryngwladol Dylan Thomas a chafodd ei enwi’n un o’r awduron “20 o dan 40” y New Yorker yn 2010. Mae’n byw yn Efrog Newydd.

Nofelydd ac academydd yw Francesca Rhydderch. Yn 2014, cafodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries ei rhoi ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau Clwb yr Awduron ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei straeon byrion mewn cyfrolau a chylchgronau a’u darlledu ar Radio 4 a Radio Wales. Hi oedd deiliad bwrsariaeth BBC/Tŷ Newydd yn 2010, ac yn 2014 cafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Straeon Byrion Genedlaethol y BBC. Wedi hynny, ar y cyd â Penny Thomas, hi oedd cyd-olygydd New Welsh Short Stories, cyfrol ffuglen ddiweddaraf Llyfrau Seren, ac ers 2015 hi yw Athro Cyswllt Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe. [Credyd y llun - Jake Morley]