Trosolwg o'r Grŵp

Mae’r grŵp ymchwil Ffiseg Atomig Moleciwlaidd a Chwantwm (AMQP) wedi’i leoli yn yr Adran Ffiseg ac mae’n ymdrin â phortffolio amrywiol o ymchwil ffiseg cwantwm yn amrywio o wrthfater i ddeunydd cyddwys, optomecaneg, ffenomenau tra chyflym, delweddu a chyfrifiant cwantwm ac efelychu. Mae'r gwaith yn rhychwantu arbrawf a theori ac mae iddo gymwysiadau mewn sawl maes, gan gynnwys gwyddor feddygol.

Ein cenhadaeth yw perfformio ffiseg o ansawdd uchel sy'n gystadleuol yn rhyngwladol, mewn cydweithrediad â grwpiau ymchwil blaenllaw a phartneriaid diwydiannol yn y DU, Ewrop a ledled y byd.