🔬 Beth i’w Ddisgwyl:

  • Seryddiaeth ymarferol: Defnyddio telesgopau robotig i arsylwi gwrthrychau seryddol.
  • Technoleg flaengar: Treulio diwrnod yn ein cyfleuster lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf ar Gampws y Bae.
  • Cyfarfod â’r arbenigwyr: Cwrdd ag ymchwilwyr a darganfod y gwaith arloesol sy’n digwydd yn ein adran..

Mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio i roi blas realistig i chi ar ffiseg lefel prifysgol a’r ystod eang o feysydd ymchwil rydym yn eu harchwilio.

📅 Gwybodaeth Allweddol:

  • Dyddiadau: Dydd Llun 22 Mehefin – Dydd Gwener 26 Mehefin
  • Lleoliad: Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe
  • Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Gwener 12 Mehefin
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

📥 Sut i Wneud Cais:

Lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen gais , a’i dychwelyd at Dr Sarah Roberts (s.g.roberts@swansea.ac.uk).

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cenhedlaeth nesaf y ffisegwyr i Abertawe!