Cyflwyno gwaith allgymorth i wella nifer y bobl sy'n astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac yn ymgysylltu am fwy na deng mlynedd, mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe'n cysylltu disgyblion yn ne Cymru â gwyddoniaeth mewn prifysgol. Arweinir S4 gan ymchwilwyr STEM, a'i nod yw cyffroi pobl ifanc ac ennyn eu diddordeb mewn gwyddoniaeth drwy weithdai ymarferol, rhad ac am ddim a arweinir gan ymchwil ac a ysgogir gan chwilfrydedd. Nod S4 yw ei gwneud hi’n haws i ddysgu pynciau STEM, a chynyddu nifer y myfyrwyr sydd o gefndiroedd nad ydynt yn draddodiadol yn astudio pynciau STEM ar lefel addysg uwch a chyrhaeddiad y myfyrwyr hyn ym maes addysg uwch.

Girls in a classroom
Girl and trainer with an owl
Boys in a classroom

Mae cyfranogwyr S4 yn cymryd rhan mewn gweithdai STEM ymarferol mewn labordy, mewn ystafell ddosbarth allgymorth bwrpasol ar Gampws Parc Singleton ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein gweithdai'n ategu ac yn atgyfnerthu'r cwricwlwm gwyddoniaeth cenedlaethol ac yn ymdrin â phynciau ym meysydd bioleg, cemeg a ffiseg. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd hefyd yn elfennau allweddol ar ein haddysgu.

Sefydlwyd S4 yn 2012 gan y ffisegydd Dr Will Bryan a'r daearyddwr yr Athro Mary Gagen ym Mhrifysgol Abertawe, ac ers 2018, mae'n rhan o Gonsortiwm Trio Sci Cymru. Cefnogir y rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Wrth wraidd gweithgareddau S4 y mae meithrin a gwella ein dealltwriaeth o'r bobl sy'n astudio STEM, ac mae'r ymchwil hon yn llywio polisi. Mae cyhoeddiad diweddar i'w gael yma:

Bryan, R., Gagen, M.H., Bryan, W.A. et al. “Reaching out to the hard-to-reach: mixed methods reflections of a pilot Welsh STEM engagement project” SN Soc. Sci. 2, 10 (2022). https://doi.org/10.1007/s43545-021-00311-6

Am ragor o wybodaeth, ewch i:
https://s4science.co.uk/
https://twitter.com/swansci4