Cwestiwn 1

Rali

Pa agweddau ar hanes LGBT+ rydych chi'n eu harchwilio yn eich gwaith ymchwil?

Rwyf yn gweithio ar hanes Prydain fodern. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn hanes mudiadau cymdeithasol, gan gynnwys y mudiadau dros hawliau pobl hoyw. Rwyf wedi ysgrifennu am Maureen Colquhoun, sef y lesbiad 'hunan-ddatganedig' gyntaf i fod yn AS yn Lloegr yn y 1970au. Roedd yn bwerdy ffeministaidd, ac yn mynnu iddynt ei galw'n 'Ms' yn y senedd ac yn cynnig mesurau a oedd yn amddiffyn gweithwyr rhyw.

Cwestiwn 2

Baner

Sut newidiodd sefyllfa'r gymuned LGBTQ+ drwy ddechrau'r 21ain ganrif, yn eich barn chi?

Yn fy marn i, rydym ni wedi gweld llawer iawn o gynnydd o ran cynwysoldeb, dathlu amrywiaeth ac amlygrwydd. Ond mae gwaith i'w wneud o hyd.

Qwestiwn 3

Teils Scrabble - CEFNOGAETH

Sut y gall ffrindiau’r gymuned helpu pobl LGBTQ+ wrth ennill cydraddoldeb go iawn?

Gwrandewch ar weithredwyr yn y gymuned LGBTQ+ a byddwch yn gefnogol ac yn ymatebol i'w hymgyrchoedd a'u profiadau; siaradwch i fyny pan fyddwch chi'n gweld gwahaniaethau; amlygwch a seiniwch yn uchel lleisiau sydd wedi'u hymylu. Rwy'n credu mai nad cyfrifoldeb y gymuned LGBTQ+ yw 'ennill' cydraddoldeb - cyfrifoldeb y gymdeithas yw dileu rhagfarn a ffobia. Fel hanesydd, wrth reswm, rwy'n credu bod dysgu am hanes yn chwarae rôl bwysig hefyd!

Cwestiwn 4

Ffôn

Sut gallwn ni frwydro yn erbyn pob ffobia?

Mae'n rhaid gwrthsefyll gwahaniaethu a'i herio, dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth, dad-drefedigaethu cwricwla a seinio lleisiau queer yn uchel!