Depicting Disability

image of Felicity McKee
Mae'r bennod Free Thinking ar Depicting Disability, gyda'r Athro David Turner o Brifysgol Abertawe'n ddechrau arbennig i Fis Hanes Anabledd y DU, gan bortreadu cyfoeth eang o ddarluniadau o ffigurau anabl ar draws cyfnodau hanesyddol mewn llenyddiaeth ac mewn cymdeithas. Mae gan faterion megis llesiant, cyni a mynediad i'r anabl wreiddiau hanesyddol hir ac mae fframio'r materion hyn yn cael ei archwilio yn y bennod hon. Ceir trafodaeth am y ffaith nad mater modern yn unig yw barnu a yw pobl anabl yn haeddu llesiant a chymorth ai peidio, na'r amheuaeth annheg y mae llawer o bobl anabl yn ei hwynebu ynghylch dilysrwydd eu hanabledd

Nid yw'r siaradwyr yn swil o fyfyrio ar sut mae'r gorffennol wedi dylanwadu ar ganfyddiadau modern penodol am anabledd a’u llywio a chaiff y syniad o ffigurau anabl sentimental yn y naratif poblogaidd yn y gorffennol a'r presennol ei archwilio a'i herio. Er na all podlediad 50 munud fynd i'r afael â hanes anabledd yn ei gyfanrwydd, mae'n gyflwyniad da i unrhyw un sydd â  diddordeb yn y pwnc wrth i’r tri siaradwr chwalu llawer o'r mythau a’r camsyniadau poblogaidd am fywydau anabl yn hanesyddol. Mae Dr Clare Walker Gore, Jessica Secmezsoy-Urquhart a'r Athro David Turner yn cael cyfle i siarad am eu meysydd ymchwil penodol mewn ffordd sy'n gorgyffwrdd ac yn llifo'n dda gyda'i gilydd, gan alluogi'r gwrandawyr i gael darlunio ddatblygiad a newid canfyddiadau am anabledd o'r presennol yn ôl i'r bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg.

BBC Radio 3 - Free Thinking, Depicting Disability