Canolfan Therapi Sglerosis Ymledol (MS) De Cymru

Cefndir

Cysylltodd Canolfan Therapi MS De Cymru â Phrifysgol Abertawe i ofyn am gymorth wrth lenwi lleoliad gwaith tymor byr dros yr haf.
Nod Canolfan Therapi MS De Cymru yw darparu canolfan sy’n cynnig yr holl gyfleusterau angenrheidiol i helpu dioddefwyr i reoli eu salwch a byw bywyd mor normal â phosib.

Yr Her

Roedd Canolfan Therapi MS De Cymru am ddarparu cymorth ychwanegol i’r tîm sy’n gyfrifol am godi arian ar gyfer ei chanolfan newydd; lleoliad gwaith i fyfyriwr a fyddai’n ymchwilio i ffrydiau refeniw posib, nodi’r ffynonellau mwyaf addas a gwneud y ceisiadau.

Mynd i’r Afael â’r Her

Aeth tîm Parth Cyflogaeth Prifysgol Abertawe ati i ymchwilio i’r prosiect, gan nodi’r angen am rywun i ysgrifennu ceisiadau elusennol, a gweithiodd gyda Therapi MS De Cymru i ddeall gofynion y rôl a’r anghenion o ran sgiliau a phrofiad.

Helpodd y tîm i lunio’r hysbyseb, gan ei hyrwyddo drwy fwrdd swyddi’r Parth Cyflogaeth ac yn y cyfryngau cymdeithasol.
Pan ddaeth y ceisiadau i law, cynorthwyodd y tîm wrth lunio rhestr fer o ymgeiswyr a helpodd i gynnal y cyfweliadau. Yn sgil cyfweliad llwyddiannus, penodwyd Rebecca Elms, myfyriwr israddedig sy’n astudio am Faglor yn y Celfyddydau mewn
Llenyddiaeth Saesneg a Gwareiddiad Clasurol, i’r lleoliad gwaith.

Canlyniadau Llwyddiannus

Yn ogystal ag ychwanegu’n sylweddol at ei datblygiad personol ei hun, gwnaeth Rebecca wahaniaeth enfawr i’r sefydliad. Yn ystod ei chyfnod byr yn gweithio i Ganolfan Therapi MS De Cymru, cyflwynodd Rebecca nifer o geisiadau llwyddiannus am gyllid a sicrhaodd £20,000 o arian ychwanegol i’r elusen.

"Roedd gweithio ar gyfer y Ganolfan Therapi MS yn brofiad gwych. Roedd y staff yn hyfryd, ac roedd Christine, y rheolwr, yn gefnogol ac yn gymwynasgar iawn drwy gydol fy lleoliad gwaith. Roeddwn i’n ysgrifennwr ceisiadau elusennol ar gyfer y ganolfan, felly treuliais i fy amser yn chwilio am ffynonellau cyllid ac yn gwneud ceisiadau am arian tuag at y ganolfan newydd. Ces i brofiad o ddyletswyddau gweinyddol yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r sgiliau ysgrifennu rwyf wedi’u dysgu ar fy ngradd. Roedd yn brofiad gwych a fyddwn i ddim wedi cael y cyfle heb dîm y Parth Cyflogaeth." Rebecca Elms, BA Llenyddiaeth Saesneg a Gwareiddiad Clasurol