Yr Athro Colin Pillinger

BSc Cemeg. PhD Sbectrometreg Màs. Blwyddyn Graddio 1964. Gwyddonydd y Gofod. Archwiliwr Mawrth.

Cwblhaodd Colin ei BSc a PhD mewn Cemeg yn Abertawe, er iddo gyfaddef ar un adeg ei fod “yn fyfyriwr gwyddoniaeth trychinebus”.  Am fyfyriwr trychinebus, fe wnaeth yn arbennig yn ystod ei yrfa.  Ar ôl graddio, daeth Colin yn uwch ymchwilydd cysylltiol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yna yn uwch gymrawd ymchwil gyda’r Brifysgol Agored.  Yna, daeth yn Athro Gwyddor Ryngblanedol gyda’r Brifysgol Agored.

Roedd swydd gyntaf Colin gyda NASA.  Roedd yn rhan o raglen Ofod Apollo a thaith ofod Rosetta yr ESA (Asiantaeth Ofod Ewrop).  Fe ddadansoddodd samplau o’r lleuad a gasglwyd gan Apollo.

O 1996-2000 roedd Colin yn Athro Seryddiaeth yng Ngholeg Gresham, swydd a gyflawnwyd unwaith gan Syr Christopher Wren. Canmolwyd Colin am ysbrydoli nifer o bobl i ddatblygu diddordeb yng Ngwyddor y Gofod.  Ef hefyd oedd yn gyfrifol am hyfforddi a chefnogi nifer helaeth o arbenigwyr a dod â chymunedau gwyddonol a diwydiannol y DU ynghyd.

Colin oedd prif archwiliwr y prosiect Beagle 2 Mars, rhan o daith ofod Mars Express yr ESA yn 2003. Er i’r prosiect gael ei ystyried yn fethiant i ddechrau, fe wyddom bellach fod Beagle 2 wedi glanio’n llwyddiannus ar y blaned Mawrth er iddo fethu gwasgaru yn gyfan gwbl.