Ein Polisi Gyrfaoedd Moesegol
Prif Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Abertawe yw Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) ac mae'n ymrwymedig i gynnal a hyrwyddo gweithgareddau gyrfaoedd a recriwtio moesegol yn unol â:
• Gweledigaeth Strategol a Phwrpas Prifysgol Abertawe 2020
• Polisi Cynaliadwyedd 2020
• Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd (2021-2025)
• Strategaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Abertawe
Tanategir yr ymrwymiad hwn gan y Nodau Allweddol canlynol:
- Yr Argyfwng Hinsawdd
• Lles ac Iechyd Dynol
• Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
• Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig - Cynghrair Prifysgolion ‘People and Planet’ 2021/22: 1st Award Class
• Cofrestriad NQA ISO 14001 am Reolaeth Amgylcheddol
• Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon am leihau gwastraff o un flwyddyn i’r llall
• Gwobr Rhagoriaeth Arian Cymru Iach ar Waith
• Campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod
• Safon Aur ar gyfer Cyflogwyr sy’n ystyriol o feicwyr gan ‘We Are Cycling UK’
• Partner Beiciau Santander
Egwyddorion Craidd ACA mewn perthynas â Gyrfaoedd a Recriwtio Moesegol:
- Ni fyddwn yn fwriadol yn dyfeisio ymgyrchoedd marchnata sy'n hysbysebu rolau gyrfaoedd a chyflogadwyedd sy'n cyfrannu at effeithiau andwyol y diwydiannau tanwyddau ffosil, mwyngloddio, arfau a thybaco. Mae'n bosibl y caiff swyddi o’r fath eu lanlwytho gan drydydd partïon i fwrdd swyddi digidol ACA a gellir eu trafod mewn Ffeiriau Gyrfaoedd ac yn ystod cyfweliadau cyngor ar yrfaoedd (lle ceir cytundeb o amhleidioldeb ar ddechrau pob cyfweliad), os yw myfyrwyr yn holi amdanynt. At hynny, byddwn yn gwrthod lanlwytho a chymeradwyo rolau ar ein hysbysfwrdd swyddi a gaiff eu lanlwytho gan drydydd partïon y mae angen eu cymeradwyo â llaw mewn cwmnïau tybaco a'r rhai hynny sy'n cynhyrchu cynhyrchion tybaco. Hefyd ni fydd modd i gwmnïau tybaco a’r rhai hynny sy'n cynhyrchu cynhyrchion tybaco gael presenoldeb yn ein ffeiriau gyrfaoedd nac yn ein digwyddiadau cyflogwyr.
- Yn hytrach, byddwn yn hyrwyddo ‘swyddi gwyrdd’ yn rhagweithiol mewn adran newydd o'n bwrdd swyddi digidol trwy ymgyrchoedd e-bost, ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol a sianeli tebyg. Yn Abertawe, rydym o'r farn bod angen i ni gydweithio â sefydliadau yn y diwydiannau a restrir uchod i fod yn gyfrwng cadarnhaol am newid, trwy holl agweddau ar weithgareddau’r Brifysgol . Felly, mae'n bosibl bod rhai o'r swyddi gwyrdd hyn ar gael yn y diwydiannau a restrir uchod.
- Mae'r holl gyfleoedd a restrir ar ein bwrdd swyddi digidol yn cael eu sgrinio'n drylwyr i sicrhau eu bod yn gyfleoedd dilys, bod eu hamgylchedd gwaith yn ddiogel i'n myfyrwyr a'n graddedigion a bod cyflogwyr yn cadw at y gyfraith gyflogaeth bresennol.Rhaid i bob sefydliad sy'n ymwneud ag internïaethau a ariennir gan ACA arwyddo cytundeb teiran, gan gynnwys asesiad risg trylwyr, cyn cychwyn y rôl.
- Rydym yn hyrwyddo arferion gorau mewn cyflogaeth drwy sicrhau bod yr holl internïaethau sy'n cael eu hariannu gan ACA yn cael eu hariannu’n llawn a’u talu ar lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ogystal â sicrhau bod internïaethau di-dâl sydd wedi'u sgrinio a’u cymeradwyo gan ACA yn parhau’n llai na 70 awr o waith , oherwydd dros yr oriau hyn mae'r gyfraith yn symud i faes llwyd o ran manteisio ar staff.
- Mae ACA yn ffafrio ariannu gweithgareddau cyflogadwyedd o fewn sefydliadau, yn enwedig sefydliadau lleol, sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl a'r blaned.Dyma rai o’r sefydliadau ble rydym wedi ariannu internïaethau yn llawn yn ddiweddar:Fabric, Friends and Families of Prisoners, Discovery SVS, Street2Boardroom, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chyfeillion Gŵyr.
- Rydym yn cydnabod bod rhai diwydiannau’n cynnig cyfleoedd o hyd i fyfyrwyr/raddedigion o gefndiroedd cefnog yn unig, sydd eisoes â rhwydweithiau cyflogaeth, gan gynnig profiad gwaith tymor hir a di-dâl yn gyson, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n benodol i ariannu prosiectau sy'n cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb .Rydym yn gweithio'n agos gyda’r rhai sy’n sicrhau newid o fewn y diwydiannau hyn i dorri'r tueddiadau niweidiol hyn, ac mae ein cydweithrediad arobryn iBroadcast a’r rhaglen RE:ACTION 24/7 yn enghreifftiau gwych o hyn.
- Mae ACA wedi ymrwymo i ariannu gweithgareddau cyflogadwyedd sy'n cefnogi Cynaliadwyedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.Er enghraifft, yn ystod haf 2022, bydd ACA yn dod â chychod gwenyn i Gampws Parc Singleton a Champws y Bae Prifysgol Abertawe o dan ein prosiect 'Bee Together' gyda'r bwriad o gynnig 'presgripsiynu gwyrdd' i fyfyrwyr a staff sy'n teimlo y cafodd y pandemig effaith andwyol arnynt. Bwriad y prosiect yw ailadeiladu hyder drwy ddatblygu sgiliau newydd, bod yn yr awyr agored a chwrdd â gwenynwyr newydd eraill yn y gobaith y bydd myfyrwyr yn teimlo'n egnïol i ailgydio yn eu datblygiad gyrfaol unwaith y bydd hyder a lles yn gwella o ganlyniad i’w cyfraniad at Gynaliadwyedd. Hwylusir yr ymrwymiad newydd hwn i raddau helaeth trwy weithio mewn partneriaeth agos â darparwyr trydydd parti megis Bee1 yn ogystal â thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol ei hun.
- Rhaid i'r holl nwyddau a gynhyrchir gan staff ACA ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo i'n marchnadoedd targed fod yn gynaliadwy, er enghraifft, wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Rhaid i'r holl nwyddau a ddaw i'r campws ar gyfer digwyddiadau ACA drwy drydydd partïon fod yn gynaliadwy hefyd.
- Mae ACA yn gweithredu swyddfa ddi-bapur, lle bynnag y bo modd, gan argraffu er enghraifft dim ond i ddarparu addasiad rhesymol i fyfyrwyr neu os mai papur yw'r dull gorau o hysbysebu gwasanaeth hanfodol i fyfyrwyr. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o ddulliau mwy cynaliadwy fel hysbysfyrddau digidol, byrddau hysbysebu pen sialc, e-ymgyrchoedd, ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a dulliau tebyg.
- Mae ACA wedi ymrwymo i dryloywder i hyrwyddo gwelliant parhaus drwy adborth.Mae manylion cyswllt llawn staff ACA, gan gynnwys enw, rôl a chyfeiriad e-bost, ar gael ar ein tudalennau gwe ACA. I gynnig adborth ar y polisi hwn, cysylltwch â Lucy Griffiths, Pennaeth ACA ar 01792 606362 neu lucy.j.griffiths@abertawe.ac.uk
Bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hadolygu'n flynyddol gydag ymrwymiad i ehangu ein cyfraniadau yn y maes hwn.
Nid yw Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe yn rhan o wasanaeth gyrfaoedd cyfunol.Ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio â’r darparwyr trydydd parti canlynol i ddarparu gwasanaethau:
Ein cyflawniadau hyd yn hyn: