Image of students brainstorming infront of a whiteboard with sticky notes on.

Deallwn fod yr argyfwng costau byw presennol yn anodd i lawer o fyfyrwyr Abertawe. Rydym wedi creu prosiect cyffrous newydd o'r enw Hwb Gyrfaoedd i roi cymorth gyrfaoedd wedi'i deilwra i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth ddod o hyd i brofiad a chyfleoedd gwaith. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i gymryd rheolaeth ar eich dyfodol a chael mynediad at brofiad gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd eraill efallai nad wyt ti'n teimlo y gelli di gyfranogi ynddynt ar hyn o bryd.

Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys:

  • Cyfleoedd profiad gwaith â thâl a rhai di-dâl yn seiliedig ar dy amgylchiadau unigol a dy gynlluniau gyrfa.
  • Helpu i nodi a meithrin cyfalaf cymdeithasol - y rhwydwaith o bobl a sefydliadau i dy helpu i symud ymlaen yn dy yrfa.
  • Apwyntiadau 1-1 gydag ymgynghorwyr gyrfaoedd cymwys er mwyn darparu cyngor ac arweiniad ar opsiynau gyrfaol a chynllunio dy gamau nesaf, gan gynnwys cymorth ar gyfer y broses recriwtio.
  • Mynediad 24/7 at gyngor gyrfaol perthnasol a defnyddiol drwy'r Cwrs Datblygu Gyrfa.
  • Bwrsariaethau cyflogadwyedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad personol a thalu am feddalwedd, caledwedd a chostau teithio.
  • Cyfleoedd mentora i feithrin dealltwriaeth o rolau a diwydiannau gwahanol.
  • Digwyddiadau cyflogadwyedd pwrpasol gan gynnwys hyfforddiant.

 Darllena'r rhestr isod ac os gelli di uniaethu ag unrhyw un o'r datganiadau, bydd cymorth pwrpasol Hwb Gyrfaoedd ar dy gyfer di!

  • Rwy'n ystyried bod gennyf anabledd
  • Rwyf o'r farn bod gennyf gyflwr iechyd corfforol neu feddwl
  • Mae gen i un neu fwy o'r canlynol: awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ADD neu gyflyrau niwroamrywiol eraill
  • Rwy'n fyfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu
  • Rydw i wedi gadael gofal/cael profiad o ofal
  • Rwy'n dod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif ethnig (BAME)
  • Mae gen i gyfrifoldebau gofalu a/neu gyfrifoldebau rhiant
  • Rydw i'n ffoadur/yn geisiwr lloches
  • Rwyf o'r farn fy mod i'n dod o gefndir incwm isel
  • Fi yw'r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r Brifysgol
  • Rwy'n rhan o'r gymuned LGBTQ+
  • Rydw i'n dod o gymuned Sipsiwn neu Deithwyr
  • Rydw i'n byw yng nghartref y teulu ac yn teithio i'r Brifysgol bob dydd
Cofrestrwch eich diddordeb yma

              

Cysylltu â ni heddiw!

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, peidiwch â phoeni! Bydd Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn gallu eich helpu o hyd gyda chymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd personol. Ewch i'n tudalennau gwe  am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch employability@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau.