Yn 2019, gwnaethom lofnodi Llythyr yr Hinsawdd Prifysgolion a Cholegau Byd-eang 2019, gan ddatgan argyfwng hinsawdd a chydnabod yr angen am newid cymdeithasol sylweddol i drechu bygythiad cynyddol newid yn yr hinsawdd.
O 2021 ymlaen, mae ein hymrwymiadau carbon a hinsawdd lefel uchaf yn cael eu cynnwys yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ac maent yn rhan o System Rheoli Amgylcheddol y Brifysgol (ISO 14001) a gweithdrefnau rheoli gweithredol perthnasol ar gyfer ein Hamgylchedd Gwaith, Ein Hamgylchedd Naturiol, a'n Teithio.