Croeso i Athroniaeth ac Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg
Mae ein myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd cyfeillgar a chefnogol sy'n ysgogol o safbwynt deallus ac sydd wedi'i danategu gan addysgu o ansawdd uchel. Ein nod yw rhannu'n brwdfrydedd am athroniaeth ac athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg wrth i ni sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau y mae eu hangen i lwyddo yn y gweithle.
Ffocws graddau Athroniaeth ac Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yw gwneud synnwyr o'n hunain, ein cymdeithas a realiti ei hun. Prif nod y ddwy radd yw cymhwyso syniadau athronyddol i broblemau a dadleuon cyfoes. Felly, rydym am ddod o hyd i ffordd o newid y byd er gwell, nid ei ddeall yn unig.