Tennessee Randall yn cicfocsio

Mae Tennessee Randall yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw Pencampwraig Cicfocsio Ewrop ac enillydd Pencampwriaeth y Byd, ac mae hi’n cymryd rhan yng Nghynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS) Prifysgol Abertawe.

Mae gan Tennessee 15 mlynedd o brofiad yn y gamp ar ôl iddi gael ei chyflwyno i gicfocsio pan oedd hi’n saith oed, ochr yn ochr â’i chwaer yn y ganolfan hamdden leol yn Llanelli. Doedd hi ddim wedi cymryd amser hir i Tennessee greu argraff ac aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth y Byd i ymladdwyr iau ym mis Awst 2016. Ar ôl ymuno â rhengoedd yr ymladdwyr hŷn, enillodd Tennessee fedal Arian ym Mhencampwriaethau’r Byd, hefyd yn 2016. Enillodd y fedal Aur yn 2018 yn Slofenia yn ystod y Pencampwriaethau Ewropeaidd Hŷn a’r fedal Aur ym mhencampwriaethau Cicfocsio’r Byd WAKO yn Nhwrci yn 2019, y tro cyntaf iddi hi ennill teitl y byd ar y lefel hŷn. Ar hyn o bryd, mae’n gobeithio cymhwyso ar gyfer Gemau Ymladd y Byd a gynhelir yng Nghasacstan yn 2021.

Ym marn Tennessee, mae’r teulu i gyd yn rhan allweddol o fyd cicfocsio, ac mae ei thad wedi bod yn ei hyfforddi ers y cychwyn cyntaf: “Mae’n gwybod beth sy’n fy ysgogi, mae’n hyfforddwr gwych ac rydyn ni’n gweithio’n dda gyda’n gilydd. Rydyn ni’n cynnal ein clwb gyda’n gilydd, yn addysgu cicfocsio, ac mae mam-gu a thad-cu yn cymryd rhan hefyd, felly menter deuluol go iawn yw hi.”

Mae Tennessee wedi bod yn gystadleuol erioed a’i dymuniad oedd ennill pob camp yn ystod diwrnod chwaraeon yr ysgol. “Ro’n i’n caru chwaraeon, dyna’r oll”, meddai.

Mae hi hefyd o’r farn bod chwaraeon yn ei helpu gyda’i gwaith yn y Brifysgol: “Er fy mod i’n mwynhau astudio, bydd cryn dipyn o straen arna i bob hyn a hyn yn ymgodymu â dyddiadau cau ac arholiadau. Rwy’n credu bod chwaraeon yn cynnig rhyw fath o ddihangfa a chan fy mod i wedi bod ynghlwm wrth fyd chwaraeon drwy gydol fy mywyd rwy’n gwybod pa mor bwysig yw parhau i fod yn heini yn ogystal â gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau.”

Pan ofynnwyd iddi am gyngor i fenywod sy’n ystyried dechrau cicfocsio, dyma a ddywed Tennessee: “Does dim rhaid ichi fod yn ymladdwr i fod yn gicfocswraig, mae’n rhoi cynifer o sgiliau bywyd eraill ichi hefyd megis dyfalbarhad, disgyblaeth a hyder.”

Mae Prifysgol Abertawe’n falch o fod wedi dyfarnu un o’n hysgoloriaethau chwaraeon dethol i chwaraewraig mor ddiwyd ac ysbrydoledig. Dymuna’r Brifysgol bob llwyddiant i Tennessee a gobeithiwn y bydd myfyrwyr-athletwyr ledled Cymru a’r byd yn dilyn ei hesiampl.