Graddiodd Tamara o’r Brifysgol yn 2012 gyda BA yn y cyfryngau a chyfathrebuHi yw Rheolwr Strategaeth SEO IG Group yn ogystal â bod yn strategydd cynnwys ar gyfer y wefan newyddion ac ymchwil DailyFX. 

Beth oedd wedi dod â chi i Brifysgol Abertawe? 

Y lleoliad, y neuaddau preswyl a’r ysbryd cymunedolyn ogystal â’r hyblygrwydd i gyfuno modiwlau ar draws adran y Dyniaethau i lunio cwrs a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar astudiaethau’r cyfryngau gyda sgiliau newyddiaduraeth ond oedd hefyd yn cynnwys elfennau o hanes, cymdeithaseg a mwy. 

Sut byddech chi’n disgrifio eich amser yma?  

Ffotograff du a gwyn o Tamara Marshall

Roedd y cwrs wedi ennyn fy niddordeb, roedd strwythur yn dda ac ar ben hynny roedd y darlithwyr yn gefnogol ac yn wybodus. Roedd y llyfrgell yn adnodd ardderchog i fyfyrwyr ac roedd campws y myfyrwyr yn lle bywiog a diogel. Roedd y neuaddau preswyl yn ystod y flwyddyn gyntaf hollbwysig mewn cyflwr da, yn ddiogel ac yn gyfforddus. 

Roedd bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn hwyl a byddai llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn i feithrin ysbryd cymunedol, gan gynnwys Varsity Cymru, a byddai’r bywyd nos lleol (sy’n eithaf adnabyddus am ystod y lleoliadau a’r nosweithiau i fyfyrwyr) bob amser yn golygu noson wych allan. 

Dywedwch wrthon ni am eich llwybr gyrfaol a’ch taith tuag at eich rôl bresennol gydag IG Group.  

Ar ôl graddio o Abertawe yn 2012, symudais i Bournemouth i wneud diploma llwybr carlam yr NCTJ (National Council for the Training of Journalistsgyda phapur newydd y Daily Echo. 

Ym mis Chwefror 2013 dechreuais gyfnodau o interniaeth mewn nifer o asiantaethau newyddion a byd adloniant, cylchgronau cenedlaethol a digidol ac yna gyda gwefan trefnu digwyddiadau (DesignMyNight.com)  gan roi fy sgiliau newyddiadurol ar waith a darganfod y datblygiadau cynnar ym maes optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a marchnata digidol allweddol. 

Yna yn 2014 cefais fy swydd amser llawn gyntaf gydag asiantaeth marchnata B2B (Memiah) fel golygydd cynnwys digidol, gan symud i rôl weithredol fel swyddog SEO 18 mis yn ddiweddarach mewn asiantaeth marchnata digidol (MRS Web Solutions). Roeddwn yn awyddus i gael her newydd a mwy sylweddol – a chyda golwg ar gyfuno fy nghariad at waith gwirfoddol, cynnwys digidol a maes SEO, yn 2016 derbyniais swydd fel golygydd cynnwys gydag elusen genedlaethol a symud i Lundain. 

Gyda’r elusen roeddwn yn gallu llywio strategaeth y cynnwys, a dylanwadu arni, er mwyn blaenoriaethu arferion gorau ym maes SEO, yn ogystal â defnyddio fy sgiliau newyddiadurol i gyfweld â phobl mewn astudiaethau achos ac arbenigwyr meddygol, rhwydweithio mewn digwyddiadau, trefnu a chyfarwyddo sesiynau tynnu lluniau, a chyflwyno a chyfarwyddo fideos addysgol. Tua diwedd 2017, cysylltodd un o recriwtwyr Kode a oedd yn gweithio i IG â mi. Gofynnodd i mi fynd i gyfweliad ar gyfer swydd rheolwr SEO, ac ers hynny dw i ddim wedi edrych nôl. 

Beth yw eich cyngor i fyfyrwyr presennol Abertawe? 

Dw i’n siŵr bod llawer wedi newid yn Abertawe ers i mi fod yn fyfyrwraig yno, ond byddwn i’n annog pawb wneud y gorau o’r traeth a phenrhyn Gŵyr (hyd yn oed yn ystod tywydd gwlyb) a’r llyfrgell (yn enwedig yn ystod tywydd gwlyb) gan fod y ddau yn lleoedd gwych i ddianc iddynt ac i gael rhywfaint o amser i ffwrdd o brysurdeb bywyd myfyriwr. 

Roeddwn i’n hoffi’n fawr yr ystod o lyfrau yn y llyfrgell a’r cwtshys bach lle gallwn i dreulio oriau yn pori dros fy ngwaith. Dw i hefyd yn argymell cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau, chwaraeon a digwyddiadau ag sy’n bosibl gan fod hyn yn ffordd wych o wneud ffrindiau a sicrhau bod bywyd yn y brifysgol hyd yn oed yn fwy pleserus a buddiol. 

Beth fu’r fwyaf ers i chi raddio? 

Dysgu sgiliau a gwersi bywyd hollbwysig yn nyddiau cynnar fy ngyrfa – megis ymgyfarwyddo â gwneud llawer o interniaethau cyn cael swydd go iawn, bod yn hyderus a chredu ynof fy hun yn ystod cyfweliadau ac interniaethau, dygymod â chael fy ngwrthod, a gwybod pryd i gerdded i ffwrdd a dod o hyd i rywbeth gwell er lles fy iechyd, fy llwyddiant yn y tymor hir a’m hapusrwydd. 

Mae’r pryder nad ydw i’n haeddu fy llwyddiant wedi bod yn her i mi hefyd ac mae hynny’n parhau, ond rwy’n meddwl ei fod yn fy symbylu i wella ac i weithio’n galetach. 

Beth yw’ch gobeithion a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol? 

Parhau i wneud cynnydd, gwella, dysgu, goresgyn problemau a thyfu. Parhau i gwrdd â phobl sy’n debyg i mi a phobl sy’n wahanol i mi fel y galla i ddysgu ganddyn nhw, cael fy herio ganddyn nhw a chael fy ysbrydoli ganddyn nhw. Yn ail, parhau i gyflawni pethau mwy heriol. A mwynhau’r daith a chreu atgofion ar hyd y ffordd.