Llun o Stuart Irvine ar drec drwy’r Himalaya

Mae Stuart Irvine yn Athro Deunyddiau Ynni Solar yng  Nghanolfan Ymchwil i Ynni Solar (CSER) Prifysgol Abertawe.Gwnaeth ef a’i wraig, Fiona, gychwyn ar daith yn yr Himalayas yn ddiweddar, er mwyn codi arian at ysgol yn Nepal a chasglu data ar gyfer prosiect ymchwil i gelloedd solar yr Athro Irvine. 

Beth ysbrydolodd eich antur yn yr Himalayas? 

Codi arian at Ysgol Plant y Briciau ysbrydolodd y daith. Mae Ysgol Plant y Briciau yn darparu addysg ar gyfer plant o deuluoedd mudwyr sy’n treulio chwe mis y flwyddyn, yn ystod y tymor sych, yn creu briciau yn nyffryn Kathmandu.Cyn i’r elusen gael ei sefydlu, doedd dim addysg gan y plant o gwbl yn ystod y cyfnod hwn, a phan ddychwelon nhw i’w pentrefi genedigol bydden nhw wedi cwympo y tu ôl yn eu haddysg, ac yn aml bydden nhw’n tynnu allan. 

Sut daethoch chi'n rhan o hyn? 

Daethon ni’n rhan o hyn drwy Carole Green, sy’n ohebydd i newyddion ITV, yn ffrind ac yn gymydog.Mae Carole yn ymddiriedolwr ar gyfer Ysgol Plant y Briciau yn nyffryn Kathmandu ac roedd hi wedi mynd at arweinydd teithiau yn y mynyddoedd lleol, sef Jason Rawles sy’n brofiadol wrth arwain teithiau ar uchder, ynghylch taith o Ysgol Plant y Briciau i’r Gwersyll Cychwyn er mwyn codi arian yr oedd ei angen ar yr ysgol yn fawr. 

Ydych chi'n ddringwr profiadol? 

Rydw i wedi bod yn cerdded yn y mynyddoedd ac yn dringo creigiau ers sawl blwyddyn, ac wedi cael cariad at Everest a’r Himalayas, ond doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n mynd yno.Rydw i’n gwneud cryn dipyn o gerdded teithiau hir ac rydw i wedi dringo ar uchder ychydig o weithiau dramor, ond byth yn uwch na 3,200 o fedrau, felly taith i’r anghyfarwydd oedd hon i mi! 

Beth oedd yn eich cadw i fynd pan roedd pethau’n galed iawn? 

Cawson ni i gyd uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond pan roedd un ohonon ni’n teimlo effeithiau’r uchder a’r oerni, byddai rhywun yn camu i’r adwy ac yn codi’n hysbrydion.Gallai rhai o’r llwybrau serth lan y mynydd fod yn ddi-baid ond yn hytrach na meddwl pa mor galed roedd hi, byddwn i’n colli fy hun yn y golygfeydd hynod anhygoel a gofyn i’n tywysyddion Sherpa am enwau’r mynyddoedd o’n cwmpas.Roedd hi’n drawiadol! 

A wnaethoch chi gyflawni’r hyn roeddech chi’n anelu ato? 

Mae’n dda gen i ddweud bod Fiona a minnau wedi codi dros £1,000 ar ein tudalen JustGiving, diolch i lawer o roddion hael.Ymhlith y tîm i gyd, rydyn ni wedi codi tua £8,000 at waith yr ysgol. 

Diolch i ddyfeisgarwch fy nghydweithwyr yn CSER ac ym Mhrifysgol Surrey a wnaeth addasu fy nghyfarpar cyn i mi fynd ar y daith, roeddwn i’n llwyddiannus wrth gael yr holl wybodaeth roedd ei hangen arna i ar gyfer fy ymchwil.Cedwais i’r holl ddata ar gerdyn SD y gellid ei ddarllen ar liniadur pan ddychwelais i i’r labordy.Doedd dim syniad gen i fod yr arbrawf wedi bod yn llwyddiannus tan i mi ddychwelyd.Yn yr holl amser, collais i ddim ond un mesur cell felly roedd yn rhyddhad mawr i mi weld y data’n sgrolio ar sgrîn y gliniadur.Bellach rydyn ni yn y broses o ddadansoddi’r data, a gallai un o’n darganfyddiadau gael goblygiadau mawr ar gyfer rhoi celloedd solar ar waith ar uchder, er enghraifft, wrth ddarparu ynni solar i gymunedau pell sydd ar uchder.