Graddiodd Salim Lalani gyda BA mewn Economeg ym 1967. Banciwr rhyngwladol, entrepreneur a dyngarwr yw e. 

Cawsoch chi eich geni a’ch magu yng Nghenia, felly beth oedd wedi peri ichi astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Roedd Tŷ Cenia yn Llundain wedi cynnig dewis imi rhwng Aberystwyth ac Abertawe. Yn dilyn ymchwil a pheth anhawster i ynganu enw Aberystwyth (!) roedd y dewis yn un syml. Fel y digwyddodd, hwn oedd un o benderfyniadau gorau fy mywyd. 

Beth sydd wedi aros yn y cof o’ch amser yn Abertawe? 

Roedd symud i Neuadd Sibly yn y Brifysgol yn ystod ail dymor fy mlwyddyn gyntaf wedi agor byd newydd imi, gan gynnwys creu grŵp amrywiol a newydd o ffrindiau, dysgu bridge a chwarae gwyddbwyll hyd oriau mân y bore.

Llun pen o Salim Lalani 

Rwy wedi cadw mewn cysylltiad gyda nifer o fyfyrwyr tramor o bedwar ban byd a gwneuthum lawer o gysylltiadau agos yn ystod fy amser yn Gadeirydd Cymdeithas y Myfyrwyr Tramor. 

Ymhlith y cymeriadau mwyaf bythgofiadwy yr oeddwn wedi dysgu cymaint ganddyn nhw oedd Len a Marion Goss a oedd yn byw yn y ddinas. Roeddynt wedi cymryd diddordeb byw yn y Brifysgol a bydden nhw’n agor eu cartref bob nos Sul i fyfyrwyr tramor. Daethon nhw’n gyfeillion agos, yn fentoriaid imi, ac yn wir nhw oedd fy nheulu lleol. 

A oedd eich amser yn y brifysgol wedi dylanwadu ar eich gyrfa? 

Roedd Yr Athro Dennis Lees o’r farn bendant y dylwn i wneud rhagor o astudiaethau mewn economeg gymhwysol, felly dyma fi’n glanio yn y diwedd ym Mhrifysgol Chicago, lle roedd yr Athro  Lees wedi bod yn athro gwadd. Roedd wedi rhoi gwybod imi y byddai Prifysgol Chicago yn hepgor y gofynion ar gyfer mynediad i’r wlad ac y bydden nhw’n cynnig cymorth ariannol. 

Roedd Chicago wedi agor byd cyfan gwbl newydd imi, nid yn unig ym maes economeg ond hefyd ym myd busnes, masnach, arian a busnes rhyngwladol. Cwrddais ag arweinwyr ym myd diwydiant, cyd-fyfyrwyr, llawer ohonynt â phrofiad uniongyrchol o fyd busnes, a bues i’n dyst uniongyrchol i’r marchnadoedd arian a nwyddau. 

Allwch chi rannu rhai o uchafbwyntiau eich gyrfa? 

Ymhlith un o uchafbwyntiau fy ngyrfa y mae fy aseiniad yn Hong Kong fel Pennaeth Marchnadoedd Cyfalaf i Asia gyfan ar gyfer Bank of America. A minnau’n arwain tîm o 53 o weithwyr proffesiynol, rhanbarth enfawr oedd hwn a oedd yn ymestyn o Siapan i’r India ac yna i lawr i Awstralia a Seland Newydd. Hwn oedd un o’r profiadau proffesiynol a phersonol mwyaf heriol, cystadleuol, llwyddiannus a phleserus imi ei gael yn ystod fy ngyrfa. Byddai’r ymwneud beunyddiol â chorfforaethau, llywodraethau, diwydianwyr, cystadleuwyr yr oedd sawl diwylliant, athroniaeth, iaith yn ogystal â sawl math o fywyd cymdeithasol yn perthyn iddyn nhw yn gofalu bod pob dydd yn dra gwahanol i’r un blaenorol. 

Bu uchafbwynt arall ym 1987 pan greais Sandown Capital Corporation. Yn dilyn cyfres o drafodion ariannol arwyddocaol ac arloesol fe gafodd y gorfforaeth ei gyrru ymlaen a’i throi’n fusnes ecwiti preifat, a dyna oedd byrdwn ei busnes drwy’r 1990au tan 2018. Mae busnes Sandown hefyd wedi bod ynghlwm wrth brydlesu cyfarpar mewn perthynas â darlledu allanol ar gyfer chwaraeon proffesiynol.  

Rydych chi wedi byw mewn llawer o lefydd ledled y byd ac rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. P’un yw eich hoff le? 

Rwy wedi mwynhau’n arw yr holl wledydd a llefydd rwy wedi byw ynddyn nhw, felly mae’n anodd dewis un uwchlaw'r lleill. Byddai Manila yn uchel ar fy rhestr oherwydd y bwyd, y bobl, y cefn gwlad a’r agweddau proffesiynol ar y gwaith, ac yn agos iawn ar ôl Manila byddwn i’n dewis Hong Kong a Llundain. 

Gan fod yr amryw o fusnesau a daliannau buddsoddi sydd gennych chi bellach yn cael eu dirwyn i ben neu’n cael eu gwerthu, beth yw’r cam nesaf ichi? 

Rwy’n raddol agosáu at ymddeol ond serch hynny rwy’n weithgar o hyd ac yn brysur gyda’m daliannau personol a dyngarwch ym maes addysg, cynorthwyo pobl anghenus a’r celfyddydau. Rwy’n aelod o Fyrddau Cynghori Prifysgol Talaith Montana, Cerddorfa Symffoni Bozeman, a Chanolfan Shane Lalani ar gyfer y Celfyddydau, yn ogystal â chwmnïau daliannol busnes personol. 

Yr agwedd ar fy ngwaith presennol sy’n rhoi boddhad imi fwyaf yw helpu i’r genhedlaeth iau gael mynediad addysgol drwy gynnig ysgoloriaethau a mentora. Mae rhan go fawr o’r gwaith hwnnw yn golygu addysg, menywod yn benodol felly, yn y byd datblygol (Affganistan, Pacistan, Cenia ac ati) yn ogystal ag ar sail ddethol yn UDA a’r DU. Ar y cyd â’m gwraig, rydyn ni’n cymryd rhan amlwg mewn prosiectau i atal caethwasiaeth plant a masnachu pobl. 

Agwedd ddiddorol iawn arall ar fy mywyd presennol sy’n rhoi boddhad imi yw helpu egin entrepreneuriaid a busnesau bychain, a hynny drwy fentora a darparu cyfalaf i gychwyn neu ehangu’r busnes. 

Hoffwn i barhau â’m gwaith dyngarol ac addysgol a’m mentrau cychwyn busnes tra fy mod yn mwynhau chwaraeon a theithio ledled y byd.