Wrth i effaith y pandemig gynyddu, ymatebodd myfyrwyr nyrsio i'r her drwy ymuno â'r gweithlu iechyd yng Nghymru.  

Roedd Matt Townsend yn un o 700 o fyfyrwyr nyrsio o Brifysgol Abertawe a benderfynodd ymgymryd â lleoliad estynedig mewn ymarfer clinigol a chymryd rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19.  

Meddai Matt, sydd yn ei ail flwyddyn: “Mae Covid-19 wedi fy nysgu bod gwydnwch yn rhan sylfaenol o'n rôl fel myfyrwyr nyrsio.   

“Nid oedd neb yn rhagweld y byddem yn rhan o bandemig byd-eang. Er fy mod yn bryderus ac yn nerfus ynghylch yr hyn sydd o'm blaen, rwy'n teimlo bod hwn yn gyfle arbennig i ddysgu ac i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol fel clinigydd.  

Matthew Townsend mewn gwisg unffurf

“Rwy'n llawn cyffro ynghylch yr heriau a'r brwydrau sydd i ddod a byddaf yn arfer fy nyletswydd gofal yn y ffordd y mae Prifysgol Abertawe wedi fy addysgu o'r dechrau – gyda dewrder, ymrwymiad a thosturi.”  

Cyfaddefodd Matt, sydd bellach yn byw yn Sir Benfro gyda'i ŵr Pete, ei fod wedi gorfod meddwl o ddifrif ynghylch a ddylai ymgymryd â'r rôl.  

“Ni allaf guddio'r ffaith fy mod wedi teimlo braidd yn bryderus am yr hyn y byddai'r lleoliad yn ei gynnig ond roeddwn am gael rhywbeth cadarnhaol o'r sefyllfa a'i defnyddio fel cyfle i ddysgu a datblygu.”  

Hefyd, gwnaeth ganmol y gefnogaeth a gafodd gan ei fentor academaidd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd drwy gydol ei astudiaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod cyn cydio yn ei ddyletswyddau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.  

“Mae ymyl arian i bob cwmwl hyd yn oed os oes angen chwilio'n ddyfnach ac yn ddewrach weithiau. Mae pawb yn wynebu cyfnod ansicr wrth i ni ymdrin ag amgylchiadau dieithr. Mae angen i ni wneud y gorau o'r gwaethaf a dyna fy nod i.”