Llun pen o Kamila Hawthorne 

Mae’r Athro Kamila Hawthorne newydd ei phenodi yn Arweinydd Dros Dro Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Prifysgol Abertawe. 

Sut rydych chi’n cydbwyso’ch cyfrifoldebau gwaith a chartref? 

Mae hyn bob amser wedi bod yn anodd imi! Rwy wedi ceisio pob math o gyfuniad, ond ymddengys nad oes digon o oriau yn ystod y diwrnod. Dros y blynyddoedd, rwy wedi dod i’r casgliad mai’r hyn sy’n gweithio orau yw gwneud pa beth bynnag sy’n ymddangos bwysicaf imi a cheisio peidio â rhannu byd gwaith a’r cartref yn rhy gaeth. Yn aml bydda i’n amldasgu. Weithiau bydd nifer y prydau bwyd fydd yn cael eu llosgi yn mynd yn ormodol a bydd rhaid imi ganolbwyntio mwy ar yr hyn sydd o flaen fy llygaid!

A fydd menywod yn eich proffesiwn yn ei chael hi’n anodd i gael eu dyrchafu?

Byddant, rwy’n credu bod hynny’n wir, ond mae’r rhwystrau yn aml yn rhai cynnil ac mae’n anodd eu diffinio. Y ffordd orau i feddwl amdano yw cyfrif nifer y cyfarfodydd rwy’n eu mynychu ac, o blith pawb, hwyrach mai fi yw’r unig fenyw yn yr ystafell. Pan fydd menywod yn cystadlu â dynion ar gyfer rolau arwain, rwy hefyd wedi darganfod y bydd paneli dethol yn cael eu cyflyru yn sgîl eu disgwyliadau eu hunain o’r hyn y dylai hanfod, sylwedd a llais ‘arweinydd’ fod.

Sut mae diwylliant sefydliadau wedi newid mewn perthynas â menywod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf?

Mae wedi newid yn sylweddol ym myd meddygaeth gan fod llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhan-amser ac mae cyfnodau hwy o absenoldeb mamolaeth yn cael eu derbyn yn fwy (pan roeddwn yn ifancach, roedd disgwyl inni gymryd chwe wythnos i ffwrdd o´r gwaith i esgor ar faban!). Ceir llawer mwy o fenywod ym myd meddygaeth bellach hefyd, a menywod yw bron 60-70% o’r myfyrwyr newydd yn yr Ysgol Feddygaeth (pan ddechreuais i yn y 1970au hwyr, menywod oedd 10% o’r myfyrwyr newydd yn fy ysgol feddygaeth).

Mae llawer i’w wneud o hyd yn sgîl ymddygiad ystrydebol gan rai meddygon hŷn sy’n parhau i danseilio menywod drwy greu ynddyn nhw’r disgwyliadau y dylen nhw ymddwyn fel dyn.

Beth yw hanfodion arweinydd da?

Mae arweinwyr da yn wrandawyr da, maen nhw’n ystyriol ac yn dosturiol ac maen nhw’n gallu helpu pobl i ddatrys problemau. Maen nhw’n helpu eu tîm i wireddu’u potensial. Weithiau, prawf go iawn arweinydd yw gweld sut maen nhw’n ymateb i argyfwng ac yn rheoli pethau. Rwy o’r farn bod Jacinda Ardern, prif weinidog Seland Newydd, yn enghraifft odidog i bob un ohonon ni.

Fel arweinydd sy’n fenyw, beth oedd y rhwystr mwyaf yn eich gyrfa?

Cyrhaeddais y ‘nenfwd gwydr’ tua phum mlynedd yn ôl a doedd dim byd yr oeddwn i’n gallu ei wneud i dorri drwyddo, waeth beth a wneuthum. Yna, mynychais gyfarfod lle roedd model rôl yn siarad am ei yrfa a dyma a ddywedodd, “Os ydych chi wedi dod wyneb yn wyneb â rhwystr, beth am fynd heibio iddo yn hytrach na thrwyddo fe.” O ganlyniad, gwneuthum gais am swydd rywle arall a symudais yn fy mlaen.

Enwch rai strategaethau sy’n gallu helpu menywod i sicrhau rôl amlycach yn eu sefydliadau?

  • Pwyllwch, peidiwch â rhuthro os nad ydych chi wedi ystyried hyd a lled y cysyniadau fydd yn gefn ichi
  • Gwrandewch yn astud ar yr hyn y bydd pobl yn ei ddweud a chymerwch eich amser i ddod i’w hadnabod fel pobl.
  • Mae lle i gyfaddawd – peidiwch â brifo teimladau pobl os nad oes rhaid gwneud hynny – mae’n well gan bawb bron iawn rywun sy’n gallu peri i dîm weithio. Byddwch yn berson neis!
  • Byddwch yn effro o ran meithrin eich rhwydweithiau a’ch grwpiau cefnogaeth.