Photo of Hannah Lamden

Mae cymhelliant a phersonoliaeth y gyn-fyfyrwraig Hannah wedi arwain at yrfa ddisglair yn gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y byd adloniant.  

Dechreuodd y cwbl pan oeddwn yn gweithio’n rhan-amser ym mar Undeb y Myfyrwyr i helpu i dalu am fy ngradd mewn Astudiaethau Americanaidd. Cyn bo hir dechreuais weithio i'r adran Adloniant yno, gan drefnu digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr, cysylltu â llawer o hyrwyddwyr ac asiantiaid yn Llundain, a gwneud y trefniadau ar gyfer DJs, cantorion a digrifwyr. Gwelais fod rhwydweithio'n rhan naturiol o'm personoliaeth a byddai'r asiantiaid yn cynnig fy nghyflwyno i gysylltiadau neu'n cynnig profiad gwaith i mi.  

Yn y diwedd, cefais interniaeth gyda'r label recordio XL Recordings, sy'n gweithio gydag artistiaid fel AdeleRadiohead a'r White Stripes

Hefyd, gwnes i weithio gyda Wise Buddha, sy'n cynrychioli artistiaid fel Greg James, Scott Mills a Katherine Jenkins. Yna cyflwynais fy CV i Sony Music. Cefais dri chyfweliad cyn clywed fy mod yn cael cynnig rôl fel cynorthwy-ydd personol i Simon Cowell! Ymunais fel aelod ieuaf y tîm a gwnes i fwrw ati o'r cychwyn cyntaf; roedd y gwaith yn galed, ond roeddwn wrth fy modd. 

Mae bod yn rhan o'r byd hwnnw'n debyg iawn i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl – fel gweithio yn y ffilm The Devil Wears Prada, er bod Simon Cowell yn fwy dymunol o lawer a'i bod hi'n bleser gweithio gydag ef. Mae'r diwydiant yn ddidrugaredd ac yn drwm iawn ac mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyflawni disgwyliadau'r gwaith. Roedd yn llawn glamor, gyda llawer o bartïon a theithiau rhyngwladol. Bûm hyd yn oed yn byw yn LA am chwe mis. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl bethau a welais, gan gael cip ar ffordd y cyfoethogion a'r enwogion o fyw.  

Gwnes i weithio gyda Simon fel cynorthwy-ydd am ddwy flynedd a chefais gyfle i weld llawer o agweddau gwahanol ar y busnes. Yr hyn a aeth â'm bryd oedd cysylltiadau cyhoeddus, a phenderfynais symud i'r cyfeiriad hwnnw. Roedd Simon yn ddigon haelionus i'm caniatáu i symud draw i'r tîm cysylltiadau cyhoeddus lle cefais fy mhenodi'n gynorthwy-ydd cysylltiadau cyhoeddus i'w gwmni SYCO ac ar ôl saith mlynedd gyda'r cwmni, roeddwn yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfryngau. Pan oeddwn yn credu fy mod wedi cyflawni popeth y gallwn yn y rôl honno, penderfynais roi cynnig ar greu fy musnes cyfryngau fy hun, Finery Media. 

Mae pob dydd gyda Finery Media yn wahanol ac mae angen i chi fod yn amryddawn a gallu troi eich llaw at beth bynnag y mae angen i chi ei wneud. Mae'n greadigol iawn a gallaf ddewis fy nghleientiaid yn seiliedig ar y rhai rwy'n teimlo cysylltiad â hwy. Rwy'n ffodus iawn fy mod yn cael gweithio gyda llawer o bobl hyfryd.  

Byddwn yn cynghori unrhyw un sydd am weithio yn y maes hwn i fod yn agored i gyfleoedd. Byddwn hefyd yn cynghori pobl i bennu nodau synhwyrol. Dylech ymroi digon o amser i'ch galluogi i ddysgu wrth weithio ac addasu wrth i chi fynd rhagddo, yn ogystal â bod yn barod i ofyn am gymorth. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wedi bod yn barod iawn i'm cyflwyno i bobl neu fy rhoi ar y trywydd iawn. Peidiwch ag ynysu eich hun, mae pobl am i chi lwyddo, a phan fyddwch yn y brifysgol, byddwch yn rhagweithiol – mae'r Brifysgol yn fusnes anferth â llawer o gyflogeion a gallwch ddysgu llawer o bethau drwy siarad â phobl.  

Rwy'n ystyried fy mod yn ffodus i weithio gyda'r bobl rwy'n gweithio gyda hwy. Er enghraifft, fi yw swyddog cyhoeddusrwydd Kem Cetinay. Ef oedd enillydd Love Island yn 2017 ac, ochr yn ochr â'i dîm rheoli, rydym yn gofalu am bopeth y mae'n ei wneud. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Jordyn Woods, un o sêr y cyfryngau cymdeithasol yn America, aelodau Little Mix a Georgia Toffolo, a enillodd I’m a Celebrity ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond pwy yw'r person enwocaf ymysg y cysylltiadau ar fy ffôn? Rhaid i mi ddewis Simon Cowell. Ydy, Simon yw'r enwocaf.