Cychwynnwyd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn 2015 a’r nod oedd creu arweinwyr y dyfodol ar gyfer diwydiant yng Nghymru trwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan ddiwydiant. Yma, mae Thomas Lewis, Cydlynydd Prosiect Caenu M2A, yn trafod sut mae’r Academi yn dymuno adeiladu ar bartneriaethau rhwng y byd academaidd a diwydiant a chwistrellu arloesi parhaus i fyd ymchwil a byd diwydiant.

Cafodd dechreuad Prifysgol Abertawe ei ysgogi'n bennaf gan anghenion diwydiant lleol yr oes honno; mae'r thema hon yn parhau heddiw ac yn ffurfio agwedd sylfaenol sy'n cynnwys Canolfan Hyfforddiant Doethurol COATED yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu.  

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu'n cynnig hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig a arweinir gan ddiwydiant ar gyfer peirianwyr y dyfodol gyda mwy na 120 o brosiectau presennol yn parhau, ac mae rhanddeiliaid y diwydiant yn cynnwys partneriaeth hirdymor â Tata Steel, yn ogystal â Rolls Royce a BASF i enwi ychydig. 

Ein nod parhaus yw adeiladu ar bartneriaethau academaidd-diwydiant a chwistrellu arloesi parhaus i fydoedd ymchwil a diwydiant. 
Wedi'i gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, rydym yn ceisio cynyddu cyfoeth Cymru a'r DU drwy gyflwyno unigolion hynod fedrus sy'n gallu mynd i'r gweithle ac ysgogi'r economi wybodaeth, gan wella rhagolygon cyflogaeth a ffyniant i bawb. Yn y bôn, y ffocws yw creu Peirianwyr Ymchwil sy'n datblygu rhagoriaeth dechnoleg ac ymchwil sy’n meddu ar y sgiliau proffesiynol i fod yn arweinwyr ym myd diwydiant a’r byd academaidd. 

Enghraifft ddiweddar o'n huchelgais i hyfforddi peirianwyr y dyfodol yw Caitlin McCall, myfyriwr PhD sydd wedi cyrraedd y 26ain safle yn y 50 o fenywod gorau ym maes Peirianneg fel rhan o Wobrau Cymdeithas Peirianneg Menywod. Mae gwaith ymchwil Caitlin wedi bod yn seiliedig yn bennaf ar dechnoleg pecynnu argraffedig ar gyfer y diwydiant bwyd ac mae wedi gweithio ar brosiect dylunio ar gyfer ffasiwn Llundain gan gynnwys goleuadau argraffedig, yn ogystal â chynhyrchu PPE yn ystod brig y pandemig byd-eang. Cyflawnodd Caitlin statws Peiriannydd Siartredig yn llwyddiannus yn ystod camau olaf ei gwaith a bellach mae wrthi'n ysgrifennu ei thraethawd hir. 

Gall llwyddiant cydweithredol y rhaglen gael effaith ystyrlon ar gyfer rhanddeiliaid diwydiant hefyd, gan gynnwys creu eiddo deallusol a throsi ymchwil y labordy i ddatblygu a defnyddio cynnyrch yn ystod hyd oes y prosiect. Dyma oedd yr achos ar gyfer prosiect EngD presennol o ran pecynnu plastig cwbl ailgylchadwy, sydd ar waith mewn archfarchnadoedd ledled Ewrop heddiw. 
Mae'r berthynas barhau â Tata Steel yn dyst i fudd y rhaglen i ddiwydiant, gan ymestyn i agweddau niferus y busnes. 

Mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr EngD wedi mynd ymlaen i ymuno â'r busnes, gan barhau â'r momentwm a chynnwys y lefel honno o wybodaeth, arbenigedd a dealltwriaeth gronedig o'r prosiectau hyn. 
 
Mae llwyddiannau eraill wedi arwain at ffurfio cwmnïau deillio; un enghraifft sy'n cynnwys datblygu technoleg fasnachol sy'n gallu monitro tymereddau dur tawdd yn barhaus yn ystod y broses gynhyrchu. Mae hyn yn deillio o brosiect EngD, gan arbed hyd at £4.5 miliwn i'r busnes y flwyddyn ynghyd â gostwng allyriadau CO2 cysylltiedig. 
 
Dychwelodd cynhadledd flynyddol M2A ym mis Medi, digwyddiad diwrnod cyfan yn llawn cyflwyniadau a phosteri'n arddangos ymchwil o'r radd flaenaf gan garfan M2A, a gynhaliwyd yn rhithwir am y tro cyntaf. Yn dilyn llwyddiant cynhadledd eleni, bydd yr Academi hefyd yn cynnal diwrnod arddangos arbennig a fydd yn nodi manteision ar gyfer partneriaid diwydiannol os ydynt am ddewis noddi prosiect ymchwil ôl-raddedig, a gynhelir ar 4 Tachwedd.  

Yn ogystal, ystyrir bod y rhaglen ei hun yn ddull hynod hygyrch a chost-effeithiol o gyfranogi mewn ymchwil prifysgol ac yn fuan bydd yn rhyddhau galwad am gynigion newydd ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â meysydd deunyddiau a gweithgynhyrchu a chaenau diwydiannol gweithredol. 
  
Os oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda ni neu hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Rhannu'r stori