Rydym yn falch o gyhoeddi cyrhaeddiad gallu dadansoddol newydd ac unigryw yn y DU sy'n cynnig newid sylweddol mewn technegau mesur, â’r potensial i ganfod ystod lawer ehangach o sylweddau organig (gan gynnwys isomerau) mewn solidau a hylifau.

Drwy ddefnyddio technoleg homogeneiddio taro gleiniau Omni International, ac yna system cyflwyno samplau amlfoddol (GL Sciences, wedi'i gefnogi gan SepSolve Analytical) ar y cyd â thechnegau gwahanu/canfod drwy sbectrosgopeg Uwchfioled Gwactod Cromatograffi Nwy (VUV Analytics, wedi'i gefnogi gan Scientific Support Services UK), bydd y gosodiad technolegol hwn yn galluogi creu darlun gwell o ddeunyddiau sampl.

Bydd partneriaid cydweithredol yn SepSolve Analytical yn cefnogi datblygiad dulliau newydd o gyflwyno samplau i estyn y dadansoddiad hwn ar draws ystod eang o fatricsau cymhleth. Byddwn yn cymhwyso hyn i ddylunio triniaethau, prosesau a thechnolegau newydd mwy cywir, glân a diogel ar gyfer ailgylchu/ailddefnyddio a gweithgynhyrchu ar gyfer gofal iechyd mwy effeithiol ac Economi Gylchol gynaliadwy a gwydn.

I wireddu’r agenda hon, bydd y gosodiad yn:

  1. chwilio am gydweithrediad gan bartneriaid o fyd diwydiant, llywodraeth a’r byd academaidd i archwilio meysydd cymhwyso newydd ar gyfer economi gylchol a'r tu hwnt, i fanteisio i'r eithaf ar gapasiti, gallu ac effaith;
  2. cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus defnyddwyr yn y technolegau;
  3. chynorthwyo wrth ehangu cronfa ddata rithiol VUV er mwyn hwyluso canfod sylweddau yn y dyfodol.

“Mae Omni International, cwmni PerkinElmer, yn falch o gefnogi Prifysgol Abertawe wrth ddatblygu darganfyddiadau gwyddonol i gefnogi rhaglenni monitro amgylcheddol. Mae'r gallu hwn wrth wraidd gwerthoedd craidd Omni, i rymuso gwyddonwyr i ganolbwyntio ar ddarganfod ac arloesi drwy symleiddio llifoedd gwaith paratoi samplau” meddai'r Uwch-Reolwr Cynnyrch, Paul Roberts.

I gael rhagor o wybodaeth am y gosodiad technolegol a'r potensial ar gyfer prosiectau cydweithredol, cysylltwch â’r arweinydd gallu, Dr Ruth Godfrey.

Rhannu'r stori