Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn 9 fed safle ‘Cynghrair Prifysgolion Gwyrdd’ ac rydym yn talu sylw agos i’n hallbynnau o ran hwyluso digwyddiadau. O leihau swm y papur yr ydym yn ei ddefnyddio, i arlwyo ystyriol ac annog teithio cynaliadwy, mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn sicrhau bod ein digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ffordd wyrddach. 

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ar draws y Brifysgol, felly rydym wedi llunio rhestr o 10 o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i wneud eich digwyddiad yn fwy gwyrdd:

  1. Meddyliwch yn Wyrdd
    Sicrhewch fod cynaliadwyedd ar flaen eich meddwl wrth i chi gychwyn ar y broses o drefnu eich digwyddiad a bod aelodau eraill eich pwyllgor yn barod ac wedi ymrwymo i’ch agenda gwyrdd.
  2. Teithio Cynaliadwy
    Mae’n hawdd cyrraedd ein dau gampws ar y trên, taith fer o orsaf drenau Abertawe, a gall cynadleddwyr sy’n myncyhu cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe elwa o ostyngiad o 20%oddi ar bris eu tocyn trên wth deithio gyda Great Western Railway (dysgwch fwy yma).

    Ar gyfer cynadleddwyr sy’n teithio o leoliadau tebyg, beth am hyrwyddo rhannu car? Yn ychwanegol at hyn, o’r gwanwyn yn 2018 ymlaen, bydd gennym ein cynllun rhannu beiciau ein hunain – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – y ffordd berffaith i gynadleddwyr archwilio’r ddinas wrth guro traffig y ddinas gan ddefnyddio ein llwybrau beicio bendigedig.
  3. Agendâu Electronig
    Gallwch leihau defnydd o bapur yn eich digwyddiad trwy ddarparu dogfennau yn electronig yn hytrach na’u hargraffu – mae’n anochel y bydd gennych wybodaeth i’w rhannu â’ch cynadleddwyr, ond gallwch wneud hynny o flaen llaw drwy e-boost, neu drwy ap pwrpasol ar gyfer y gynhadledd y gall ein tîm Gwasanaethau Digwyddiadau eich helpu i’w ddatblygu.
  4. Lleihau’r Tanwydd
    Gallwch leihau pŵer yn eich llety drwy ddiffodd goleuadau wrth adael ystafell, cadw’r gwres yn isel a gadael tyweli i’w golchi tan y bydd wir angen eu golchi.
  5. Arlwyo’n Ymwybodol
    Prifysgol Abertawe oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws Masnach Deg. Mae gan is-adran Arlwyo’r Campws y Brifysgol ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd, Masnach Deg, a phrynu’n lleol ac mae ystod eang o gynhyrchion Masnach Deg ar gael i gynadleddwyr eu mwynhau ar y campws, o sudd ffrwythau a choffi i felysion a gwin. Rydym yn ymdrechu i gynhrychu bwyd ffres, iachus a chynaliadwy, gan ddefnyddio cynhwysion sy’n amgylcheddol gyfrifol, sydd â tharddiad moesegol a lleol – pa ffordd well o ymdrochi eich hun mewn diwylliant lleol na thrwy eich blasbwyntiau.
  6. Cael gwaraed ar ddeunyddiau untro
    Defnyddiwch lestri yn hytrach na chwpanau papur ar gyfer eich egwyl te a choffi. Ar y campws, rydym yn cynnig gostyngiad o 25c i annog pobl i ddefnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio – rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Mehefin 2017, llwyddwyd i osgoi defnyddio 11,452 o gwpanau untro o ganlyniad i’r fenter hon.
  7. Ailgylchwch eich ysbwriel
    Mae nifer o finiau ailgylchu gwastraff o amgylch y ddau gampws lle y gall cynadleddwyr gael gwared ar eu hysbwriel.
  8. Dawn Leol
    Wrth ddewis adloniant ar gyfer eich digwyddiad, ymgysylltwch ag artistiaid lleol nad oes yn rhaid iddynt deithio’n bell i gyrraedd eich digwyddiad, mae hyn hefyd yyn taro’r sbotolau ar ddawn a diwylliant lleol – sef rhywbeth y mae gennym lu ohono yma yn Abertawe.
  9. Dyrannwch yn Gywir
    Sicrhewch fod y rhestrau cynadleddwyr wedi’u cadarnhau’n fuan er mwyn osgoi gor-arlwyo’r digwyddiad, yn nhermau bwyd ac unrhyw allbrintiadau sy’n cael eu dosbarthu.
  10. Dychwelyd ac Ailddefnyddio
    Ar ddiwedd y digwyddiad gofynnwch i gynadleddwyr ddychwelyd eu labeli enw er mwyn gallu ailddefnyddio’r casys mewn digwyddiad arall, gosodwch arwyddion amlwg i ddangos y mannau i gynadleddwyr eu gadael.

Rydym ni eisiau eich helpu i drefnu digwyddiad neilltuol sy’n cynnig profiad anhygoel i’ch cynadleddwyr, felly  er mwyn dysgu mwy am sut y gallwn ni eich cefnogi chi.

Rhannu'r stori