Trosolwg grŵp

Mae diddordeb gennym mewn deall sut y mae unigolion yn ymateb i newidiadau hinsoddol ac mae hyn, yn ei dro, yn llywio'r strwythur a'r dosbarthiad o boblogaethau a chymunedau, gan arwain at newidiadau deinamig mewn bioamrywiaeth. Nid yw ein gwaith yn benodol i system ond, yn hytrach, mae wedi'i lywio gan gwestiynau. O ganlyniad, rydym yn gweithio ar systemau astudio gwrthgyferbyniol (anifeiliaid di-asgwrn-gefn, anifeiliaid asgwrn-cefn, planhigion), gan ddefnyddio ymagweddau modelu ac efelychu arbrofol ac ystadegol. Mae'n cwestiynau'n cynnwys lefelau gwahanol o drefniant ecolegol, o ymddygiad a nodweddion unigolion i strwythur a swyddogaeth o dirweddau ac ecosystemau, ac rydym yr un mor gyffrous am ymchwil sylfaenol a chymhwysol.