Dr Penny Neyland

Athro Cyswllt, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604598

Cyfeiriad ebost

115
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n Ecolegydd ac yn Fiolegydd Amgylcheddol, gyda ffocws penodol ar ecoleg gymunedol a chadwraeth, ac mae gennyf brofiad helaeth mewn addysgu a chydweithio â phartneriaid diwydiannol. Rwy’n addysgu ac ymchwilio i amrywiaeth o bynciau o ecosystemau daearol i ecosystemau morol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwasanaethau ecosystem a’r rhyngweithio rhwng rhywogaethau a’u cynefinoedd, o blanhigion a phridd, i blanhigion a pheillwyr. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn dal a storio carbon ac ecoleg adfer er mwyn lliniaru colledion yn sgil y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Rwy’n rhan o nifer o brosiectau adfer, yn lleol ac yn fyd-eang, gan gynnwys adfer Mawndiroedd yng Nghymru er mwyn gwella’r ffordd y caiff carbon ei storio a dŵr ei gadw, adfer mangrofau yn y Gambia er mwyn gwella amddiffynfeydd arfordirol, dulliau storio carbon a diogelwch bwyd, ac Rwy’n gweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y prosiect Caru Natur Cymru er mwyn gwella lles pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd, ar hyd a lled Cymru.

Rwy’n addysgu wyneb yn wyneb yn bennaf, yn arwain neu’n cyfrannu at nifer o fodiwlau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg
  • Botaneg
  • Cadwraeth
  • Ecoleg Adfer
  • Gwasanaethau Ecosystem
  • Addysgu gwaith maes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae fy niddordebau addysgu yn amrywiol, ac yn cynnwys botaneg, ecoleg, ecosystemau morol, cadwraeth, ecoleg forol drofannol, ecosystemau ac asesu a rheoli amgylcheddol. Rwy’n frwdfrydig ynghylch addysgu ar y maes, gan ei fod yn datblygu sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy ac yn atgyfnerthu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn yr ystafell ddosbarth.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau