Grantiau'r Llywodraeth
Mae gan rai myfyrwyr hawl i dderbyn grantiau prawf modd nad oes angen eu had-dalu i helpu gyda chostau byw. I ddarganfod os yw eich mab neu'ch merch yn gymwys, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu www.gov.uk/studentfinance
Ad-dalu Benthyciadau
Ni fydd eich plentyn yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad myfyrwyr nes ei fod yn ennill dros £25,000*. Bydd disgwyl i'ch plentyn dalu 9% o bopeth y bydd yn ei ennill dros £25,000, e.e. os yw eich plentyn yn ennill cyflog o £30,000, byddai hyn yn golygu talu tua £35 y mis.
*Fe'i gadarnhawyd y bydd y lefel hon yn cynyddu o £21,000 i £25,000 o 2018/19 ar bgyfer myfyrwyr sydd yn ymgeisio i Gyllid Myfyrwyr Lloegr a Chymru, ond mae'n dal i aros am gymeradwyaeth seneddol.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae Abertawe yn cynnig ystod o ysgoloriaethau, gan gynnwys hyd at £3,000 ar gyfer Rhagoriaeth Academaidd a £1,000 y flwyddyn ar gyfer Rhagoriaeth Chwaraeon, ynghyd â bwrsariaethau ar sail incwm. Am ragor o wybodaeth, ewch i: abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau
Gwaith Rhan-amser
Mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd gwaith rhan-amser yn ystod y tymor a gwyliau. Mae yna lawer o gyfleoedd i weithio ar y campws, ac mae'r ddinas yn cynnig llawer iawn o waith tymhorol i'r rhai sy'n ceisio ategu eu benthyciadau.
Benthyciadau Cynhaliaeth
Mae benthyciadau cynhaliaeth wedi'u cynllunio i helpu gyda threuliau megis llety a bwyd. Mae'r rhain yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys incwm y cartref a lle mae'r myfyriwr yn dewis astudio. Fel arfer telir benthyciadau cynhaliaeth i'r myfyriwr mewn tair rhanddaliad trwy gydol y flwyddyn.