Ffair Gwybodaeth Ôl-raddedig

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am radd Ôl-raddedig gyda ni, mae ein ffair wybodaeth yn gyfle perffaith i gael cyngor a chefnogaeth am astudiaethau Ôl-raddedig yn Abertawe a chael gwybodaeth gan ein hacademyddion, timau ymchwil Ôl-raddedig a Chyllid Myfyrwyr.

Archebwch eich lle:

26ain o Fawrth - Campws Bae Abertawe
Myfyrwyr yn cerdded trwy campws

Noson Agored TAR Cymraeg

Dewch i’n noson agored i sgwrsio cyfrwng cymraeg gyda’n tîm cyfeillgar i ddysgu mwy am:

  • ein rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd
  • y cyllid sydd ar gael i chi
  • ein darpariaeth Gymraeg
  • cyfleoedd a chefnogaeth os ydych chi’n ansicr neu’n ddi-hyder am ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg
  • ein tîm Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • cyfleoedd gwaith

Pryd: 26 Mawrth 6.00-6.45pm

Ble: Zoom (Nawr yn digwydd ar-lein)

 

Archebwch eich lle
Myfyrwyr yn eistedd ar grisiau tu allan i ty fulton

Noson Agored TAR

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru 

Pryd: 3 Ebrill 6-7.30pm

Ble: Creu Taliesin, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP

Cadwch eich lle yma
Athrawes gyda disgybl