group of students working together

Recriwtio ein doniau

Boed yn ein hystafelloedd dosbarth ni neu yn eich ystafelloedd bwrdd, mae ein myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i droi damcaniaeth yn arfer effeithiol, gan greu syniadau blaengar a datblygu diwylliant o ragoriaeth.

Os ydych yn defnyddio ein Tîm Gyrfaoedd yn yr Ysgol, gall eu profiad helaeth a'n platfform recriwtio graddedigion pwrpasol sicrhau y cewch fanteisio i'r eithaf ar gronfa helaeth o arweinwyr busnes yfory.

Mae gwybodaeth fanwl ein tîm o’r rhaglenni, ynghyd â'r perthnasoedd da maent yn eu meithrin â'r myfyrwyr drwy sesiynau un i un, yn caniatáu iddynt greu cyfleoedd hysbysebu arbenigol ac effeithiol sy'n targedu myfyrwyr â'r sgiliau perthnasol a'r bersonoliaeth ofynnol.