Crynodeb o'r Newyddion

Car image

Y 'dallbwynt' sy'n ein hatal rhag gweld peryglon gyrru

Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

Darllen mwy
Blaenoriaethu triniaethau cleifion niwmonia drwy ddeallusrwydd artiffisial

Blaenoriaethu triniaethau cleifion niwmonia drwy ddeallusrwydd artiffisial

Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘efaill digidol’ i helpu i flaenoriaethu cleifion ar gyfer gofal dwys brys a chefnogaeth peiriant anadlu.

Darllen mwy
Ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng colli clyw a dementia

Ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng colli clyw a dementia

Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Prifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia.

Darllen mwy
Hen dechneg yn cynnig ffordd newydd o oresgyn ofn Covid-19 a thactegau osgoi

Hen dechneg yn cynnig ffordd newydd o oresgyn ofn Covid-19 a thactegau osgoi

Mae'n bosib bod gan hen dechneg o oresgyn ofnau'r potensial i ryddhau pobl rhag ofnau a phryderon ynghylch Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r Gymraeg a'i siaradwyr dan anfantais o bosib

Y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r Gymraeg a'i siaradwyr dan anfantais o bosib

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu sut gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fygythiad i ddyfodol y Gymraeg ac iechyd seicolegol ei siaradwyr.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Datblygu datrysiadau storio ynni cynaliadwy

Datblygu datrysiadau storio ynni cynaliadwy

Mae gwaith yr Athro Serena Margadonna yn ymroddedig i weithgynhyrchu ac ailgylchu batris mewn ffordd gynaliadwy, lle mae'r holl gydrannau'n cael eu bathu, eu dylunio, eu modelu a’u datblygu yn unol â fframwaith economi gylchol.

Darllen mwy
Defnyddio BSMBench i werthuso uwchgyfrifiaduron

Defnyddio BSMBench i werthuso uwchgyfrifiaduron

Er mwyn pennu sut mae uwchgyfrifiaduron yn ymateb i ffactorau sy'n achosi straen megis llwythi gwaith uchel, cyfrifiadau rhifiadol mawr neu drosglwyddo data dwys, defnyddiodd tîm yr Athro Biagio Lucini ym Mhrifysgol Abertawe eu sgiliau arbenigol ym maes ffiseg 'y tu hwnt i'r Model Safonol' i ddatblygu BSMBench.

Darllen mwy
Ecodwristiaeth a theithwyr anabl

Ecodwristiaeth a theithwyr anabl

Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Brock, mae'r Athro Brian Garrod yn archwilio'r rhwystrau y mae teithwyr a chanddynt anabledd yn eu hwynebu, yn benodol y rhai hynny sy'n dymuno cymryd rhan mewn mathau arbenigol o dwristiaeth megis ecodwristiaeth.

Darllen mwy

Barn Arbenigwyr

Yr Athro Paul Boyle

Codi neu ostwng y gwastad?

Bydd prosiectau ymchwil ac arloesi a ariennir drwy gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn y fantol cyn bo hir. Yn yr erthygl hon, a gyhoeddwyd ar Wonkhe yn wreiddiol, mae’r Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle yn dadansoddi'r problemau ynghylch rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith.

Codi neu ostwng y gwastad?
Professor Yvonne McDermott Rees

Sut gallwn ni brofi torri hawliau dynol?

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae Yvonne McDermott Rees, Athro y Gyfraith, ac ysgolheigion Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton 2020 Charlotte Morgan ac Andrea Stanišić yn trafod tlodi plant, hawliau dynol amgylcheddol a sut y gellir defnyddio tystiolaeth o'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion atebolrwydd ar gyfer torri hawliau dynol torfol.

Gwrandewch nawr
Pam y gall bod yn ddwyieithog agor drysau i blant ag anableddau datblygiadol

Pam y gall bod yn ddwyieithog agor drysau i blant ag anableddau datblygiadol

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae Dr Rebecca Ward o Brifysgol Abertawe a Dr Eirini Sanoudaki o Brifysgol Bangor yn trafod sut mae cynnwys plant a chanddynt anableddau datblygu mewn darpariaethau dwyieithog yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu wrth ochr eu cyfoedion sy'n datblygu'n arferol.

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Adesola Ademiloye

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Adesola Ademiloye yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Fiofeddygol sy'n astudio mecaneg peirianneg a deunyddiau biolegol, drwy efelychu deinameg foleciwlaidd a defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Darllen mwy
Dr. Caroline Zwierzchowska-Dod

Ymchwilydd ôl-raddedig

Roedd Dr Caroline Zwierzchowska-Dod yn fyfyriwr PhD mewn Addysg a fu'n ymchwilio i brofiadau teuluoedd o dderbyn llyfrau am ddim gan Imagination Library Dolly Parton a chyrhaeddiad addysgol plant mewn perthynas â'u cyfranogiad yn y rhaglen.

Darllen mwy
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Canolfan Ymchwil

Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn cydweithredu â sefydliadau ar draws y sector cyfreithiol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i gefnogi twf a chynaliadwyedd economi technoleg gyfreithiol fywiog ledled Cymru a'r tu hwnt.

Darllen mwy

Cydweithrediadau Ymchwil

Y Brifysgol yn rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd Horizon Ewrop

Y Brifysgol yn rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd Horizon Ewrop

Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd sy'n ceisio cryfhau a gwella galluedd ymchwil ac arloesi a rhagoriaeth cydlynydd y prosiect, y Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) yn Slofenia.

Darllen mwy
Partneriaeth yn cael ei sefydlu i wella canlyniadau i gleifion cardiofasgwlaidd yng Nghymru

Partneriaeth yn cael ei sefydlu i wella canlyniadau i gleifion cardiofasgwlaidd

Mae cydweithrediad newydd mawr wedi'i lansio gyda'r nod o wella diagnosis a thriniaeth cleifion cardiofasgwlaidd ar draws Cymru.

Darllen mwy
Abertawe'n gefeillio â phrifysgol o Wcráin gan hwyluso cydweithrediad a chymorth

Abertawe'n gefeillio â phrifysgol o Wcráin gan hwyluso cydweithrediad a chymorth

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb gefeillio â phrifysgol o Wcráin sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaethau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.