Baner yr UE a baner Jac yr Undeb

Bydd prosiectau ymchwil ac arloesi a ariennir drwy gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn y fantol cyn bo hir. Yn yr erthygl hon, a gyhoeddwyd ar Wonkhe yn wreiddiol, mae’r Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle yn dadansoddi'r problemau ynghylch rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith.

Er gwaethaf rhybuddion cynnar, mae man dall llywodraeth y DU ynghylch prosiectau ymchwil ac arloesi a ariennir drwy gronfeydd strwythurol yr UE yn cynyddu'r risg o ostwng y gwastad ar yr union adeg pan fo’n hyrwyddo agenda codi'r gwastad.

Mae'r Canghellor wedi traddodi Datganiad yr Hydref, gan egluro'r heriau y mae'r wlad yn eu hwynebu. Mewn datganiad cryf o hyder yn y sector, ymysg dewisiadau anodd, bu ymrwymiad clir i ddiogelu cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi. Roedd yn galonogol hefyd weld y llywodraeth yn ymrwymo i ehangu cyfleoedd i bob rhan o'r DU.

Cydnabu'r Canghellor gyfraniad canolog prifysgolion, gan eu gosod wrth wraidd parthau buddsoddi'r llywodraeth, gan adeiladu ar gryfderau ymchwil y sector i ysgogi twf economaidd mewn ardaloedd difreintiedig.

Dyma ganlyniad mwy cadarnhaol i'r sector na'r hyn roedd llawer o bobl yn ei ddisgwyl, a chadarnhad bod ymchwil, arloesi a sgiliau prifysgolion yn ysgogi economi'r dyfodol, gan greu cynhyrchion newydd a swyddi sy'n cynnig cyflogau uchel i weithwyr medrus iawn.

Yn y fantol

Fodd bynnag, mae problemau parhaus a all amharu ar allu'r sector i gefnogi codi'r gwastad. Yn gyntaf, gallai newidiadau i gredydau treth o ran ymchwil a datblygu arwain at leihau potensial busnesau bach a chanolig sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil i arloesi. Mae'n ddigon hysbys bod gogledd Lloegr a'r gweinyddiaethau datganoledig yn fwy dibynnol ar fusnesau bach a chanolig nag y mae llawer o rannau o dde-ddwyrain Lloegr.

Yn ail, mae’n destun hyd yn oed mwy o bryder o ran codi'r gwastad na chyfeiriwyd o gwbl at y risgiau i lawer o brosiectau prifysgolion a ariennir ar hyn o bryd drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy'n ysgogi twf arloesi a sgiliau yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU.

Mae Universities UK eisoes wedi rhybuddio bod mwy na 100 o'r prosiectau lleol hyn yn y fantol wrth i gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd beidio â'u hariannu mwyach. Dyma fan dall llywodraeth y DU a allai danseilio codi'r gwastad yn fwy nag a sylweddolwyd eto.

Dewisiadau amgen i gyllid yr UE

Bu’r rhaglenni fframwaith yn bennaf gyfrifol am gefnogi’r cyllid i ymchwil ac arloesi gan yr UE. Horizon Ewrop yw'r rhaglen ddiweddaraf o'r fath. Yn dilyn Brexit, nid oes gan y DU hawl awtomatig i gyfranogi yn y rhaglen hon ac, oni bai y bydd y trafodaethau am brotocol Gogledd Iwerddon yn dechrau dwyn ffrwyth, bydd statws aelod cyswllt y tu hwnt i gyrraedd y DU.

Felly, mae llywodraeth y DU wedi gwneud cryn ymdrech i greu set feiddgar o raglenni newydd sydd â’r nod o symbylu cydweithrediad rhyngwladol a denu rhai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r byd i'r DU.

Mae'r sector yn dal yn ymrwymedig i barhau i gyfranogi yn Horizon Ewrop ond, os bydd hynny'n amhosib, bydd yn cefnogi dewis amgen y DU. Mae cefnogaeth hefyd i'r penderfyniad a wnaed gan y llywodraeth yr wythnos diwethaf i ryddhau rhai o'r cronfeydd a neilltuwyd ar gyfer cyfranogiad, o ystyried yr achosion o oedi sydd wedi atal y DU rhag cyfranogi'n llawn am oddeutu dwy flynedd, a'r angen canlyniadol i symud ymlaen i gyfleoedd newydd.

Eto, er bod y meddylfryd y tu ôl i'r cynllun amgen yn nodedig, yn eironig mae'n gwneud y diffyg cynllunio i gefnogi'r prosiectau ymchwil ac arloesi niferus sy'n cael eu hariannu drwy gronfeydd strwythurol ar hyn o bryd yn fwy ysgytiol.

Dosbarthu dewis amgen y DU

O’r cyllid gwerth £2,696bn a ddyrannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn Lloegr rhwng 2014 and 2023, roedd £556m ar gyfer prosiectau dan arweiniad prifysgolion. Yng Nghymru, roedd 30 y cant o'r prosiectau dan arweiniad prifysgolion. Mae'r prosiectau hyn yn tueddu i fod ar lefelau parodrwydd technoleg uwch, lle mae cynhyrchion a gwasanaethau'n barod i'w masnacheiddio, sy'n nodweddiadol o'r mathau o arloesi y mae llywodraeth y DU yn eu hyrwyddo.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n disodli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn y DU, yn rhan o'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, nad oes ganddi unrhyw brofiad o reoli ymchwil ac arloesi. Mae dosbarthiad arfaethedig y gronfa newydd yn fwy cyfartal ledled y DU na'r hyn a oedd yn wir yn achos cronfeydd yr UE, a oedd wedi'u clustnodi'n fwy rhagweithiol tuag at yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gellir dadlau mai dyma achos o godi'r gwastad ledled Ewrop. 

Mae'n destun rhwystredigaeth bod y mater hwn wedi'i amlygu'n gynnar, pan argymhellodd Adrian Smith a Graeme Reid y dylai cyfran o gronfa amgen y DU i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gael ei dyrannu drwy Innovate UK er mwyn parhau i gefnogi prosiectau ymchwil ac arloesi. Ni ddilynwyd y cyngor hwn.

Effaith leol

Mae'r sefyllfa bresennol yn gorgyffwrdd â'r agenda ymchwil ac arloesi ddatganedig a amlinellwyd gan lywodraeth newydd y DU. Wrth i lawer o'r prosiectau hyn ddod i ben ar ddechrau 2023, byddwn yn gweld tranc llu o brosiectau sydd yn eu hanterth, y mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth y llywodraeth, megis trawsnewid digidol a sero net.

Mae'r prosiectau hyn yn darparu hyfforddiant sgiliau o safon uchel ac yn cefnogi twf cyflogaeth a chynhyrchiant yn lleol, gyda llawer ohonynt yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig. Bydd cannoedd o ymchwilwyr profiadol yn colli eu swyddi drwy esgeulustod ymddangosiadol, yn hytrach na pholisi penodol.

Os yw codi'r gwastad yn golygu unrhyw beth, yna mae'n hollbwysig diogelu'r gwaith hwn a'r swyddi i weithwyr medrus iawn sy'n ei gefnogi. Mae'r prosiectau hyn i'w gweld yn holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, ac mewn prifysgolion o bob math – o gefnogi busnesau i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn Newcastle i greu 1,100 o swyddi yn Swydd Gaerloyw, o fasnacheiddio graffîn ym Manceinion ddarparu cymorth pwrpasol am ddim i 350 o fusnesau bach a chanolig yn Sheffield.

Gweler un enghraifft o'm sefydliad fy hun, Prifysgol Abertawe. Mae SPECIFIC yn ganolfan ymchwil ac arloesi technoleg ynni flaenllaw a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n creu adeiladau sy'n storio ac yn rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain o ynni solar. Mae’n datblygu technolegau megis celloedd solar argraffadwy a deunydd sy'n storio gwres yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf. Mae hyn wedi arwain at saith cwmni deillio sy'n gweithio'n agos gyda channoedd o fusnesau a phartneriaid.

Agosáu at ymyl y dibyn

Rydym yn agosáu at ymyl dibyn ac ym mis Mawrth 2023 bydd 44 o swyddi mewn perygl sy'n ymwneud â SPECIFC yn unig. Dyma'r bobl sy'n arwain yr ymgyrch i gyflawni sero net, ac rydym mewn perygl o'u colli – a 15 mlynedd o waith arloesol – ar yr union adeg pan fo eu hangen yn fwy nag erioed.

Rhaid i'r llywodraeth gyfan gefnogi'r broses o addasu wrth i gyllid yr UE ddod i ben. Yn y tymor byr, bydd angen cyllid pontio i sicrhau na fydd y DU yn colli cannoedd o swyddi, llawer o bobl dalentog, a gallu arloesi a sgiliau lleol.

Byddai wedi helpu i raddau bach pe bai ymagwedd syml wedi'i mabwysiadu i ystyried y cyllid a oedd yn deillio o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn y fformiwlâu a ddefnyddiwyd i ddyrannu'r cyllid gwerth £100m ar gyfer ymchwil sy'n seiliedig ar ansawdd a £200m ar gyfer isadeiledd ymchwil, y bu croeso mawr iddo pan gafodd ei gyhoeddi.

Heb ymagwedd fwy cyfannol, bydd llywodraeth y DU yn anfwriadol yn gostwng y gwastad yn hytrach na'i godi.

Rhannu'r stori