Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi codi pedwar lle yn nhablau pwnc diweddaraf Complete University Guide ar gyfer y Gyfraith, a belllach mae hi wedi cyrraedd y 31ain safle allan o 113 o Ysgolion yn y DU, gan amlygu ei chryfder parhaus ar draws mesurau allweddol profiad y myfyrwyr a chanlyniadau graddedigion.
Mae The Complete University Guide yn gwerthuso ysgolion y Gyfraith gan ddefnyddio amrywiaeth o ddangosyddion a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil, rhagolygon graddedigion a chyfraddau dilyniant, gan ddefnyddio data o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a'r Arolwg Hynt Graddedigion.
Mae safle Prifysgol Abertawe'n adlewyrchu perfformiad arbennig o gryf mewn perthynas â rhagolygon graddedigion, o ran canlyniadau yn ogystal â bod graddedigion “ar y trywydd iawn”, ar y cyd â chyfraddau dilyniant uchel a phrofiad cadarnhaol y myfyrwyr. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn arddangos ffocws yr Ysgol ar sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth neu astudiaethau pellach.
Drwy fentrau megis Clinig y Gyfraith Abertawe, rhaglenni ffug lys barn ac eirioli a phrosiectau sy'n mynd i'r afael â chamweinyddiad cyfiawnder, mae myfyrwyr yn ennill profiad gwerthfawr o'r byd go iawn sy'n gwella eu datblygiad academaidd a'u parodrwydd gyrfa.
Ar y cyd â chwricwlwm a arweinir gan ymchwil, amgylchedd dysgu cefnogol a chysylltiadau cryf â'r proffesiwn cyfreithiol, mae'r cyfleoedd hyn yn darparu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i raddedigion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.