Lansiodd y cyn-Brif Weinidog y Gwir Anrhydeddus Jacinda Ardern ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, Alwad Christchurch mewn ymateb i'r digwyddiadau terfysgol a ddigwyddodd mewn dau fosg yn Christchurch yn 2019.

Mae'r Alwad yn cynrychioli ymrwymiad llywodraethau a chwmnïau technoleg i ddileu cynnwys eithafol terfysgol a threisgar ar-lein. Mae’r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ym Mhrifysgol Abertawe yn aelod o Rwydwaith Cynghori'r Alwad, sy'n rhoi cyngor ac yn ymgynghori ar faterion polisi a mentrau sy'n gysylltiedig â'r Alwad, gyda Dr Katy Vaughan yn Gyd-gadeirydd y Rhwydwaith.

Mae'r rôl newydd hon fel Cennad Arbennig ar gyfer yr Alwad yn cynrychioli ymrwymiad parhaus Seland Newydd i weithredu ar gyfer amddiffyn yn well ar-lein rhag cynnwys eithafol terfysgol a threisgar. Bydd y Cennad Arbennig yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weinidog.

Wrth siarad am y penodiad newydd, dywedodd Prif Weinidog Seland Newydd, Chris Hipkins:

"Mae cynnwys eithafol terfysgol a threisgar ar-lein yn fater byd-eang, ond i lawer yn Seland Newydd mae hyn hefyd yn fater personol iawn. Roedd ymosodiadau terfysgol 15 Mawrth ar masjidain Christchurch yn foment ddiffiniol i'n gwlad ac i arweinyddiaeth Jacinda Ardern ac mae Galwad Christchurch yn rhan o'n hymateb i'r ymosodiadau hynny.

"Mae ymrwymiad Jacinda i atal cynnwys eithafol treisgar fel y gwelsom y diwrnod hwnnw yn allweddol i'r rheswm iddi hi barhau â'r gwaith hwn. Bydd ei pherthynas ag arweinwyr a chwmnïau technoleg a'i dyhead am newid yn helpu i gynyddu cyflymder ac uchelgais y gwaith rydym yn ei wneud trwy Alwad Christchurch. Mae arweinyddiaeth Jacinda ar Alwad Christchurch eisoes wedi gwneud Seland Newydd, a'r byd, yn lle mwy diogel.

"Mae'n ddyled arnom i'r rhai hynny a gollodd eu bywydau ar 15 Mawrth 2019 i barhau â'n gwaith o sicrhau nad oes lle i gynnwys eithafol terfysgol a threisgar ar-lein. "

Am fwy o wybodaeth am Alwad Christchurch, gweler www.christchurchcall.com

Rhannu'r stori