Cyn-fyfyrwyr LLM Abertawe gyda'r Staff Dysgu
Mae rhaglenni LLM Prifysgol Abertawe ym meysydd Cyfraith Forwrol, Fasnachol, Masnach, Ynni a Thechnoleg nid yn unig yn denu myfyrwyr rhagorol o bob cwr o’r byd, ond hefyd yn agor drysau i gyfleoedd gyrfa eithriadol ar ôl graddio.
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cannoedd o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus mewn sefydliadau blaenllaw ledled y byd.
Ar 11 Mehefin, roedd aelodau o dîm addysgu’r LLM—yr Athro Baris Soyer, yr Athro Richard Williams, Dr Tabetha-Kurtz Shefford a Ms Angela Nicholas—yn falch iawn o gyfarfod â grŵp o gyn-fyfyrwyr LLM Abertawe sydd bellach yn gweithio yn Llundain. Darparodd y digwyddiad gyfle gwerthfawr i ailgysylltu, dathlu llwyddiannau’r cyn-fyfyrwyr, a chryfhau rhwydwaith cynyddol Ysgol y Gyfraith Abertawe.
Roeddem yn arbennig o falch o groesawu Bleddyn Phillips, Cadeirydd Bwrdd Datblygu’r Brifysgol a chyn Bennaeth Ynni yn Clifford Chance. Roedd ei bresenoldeb yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref y mae Prifysgol Abertawe yn parhau i’w darparu i’r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol a’i rhaglenni LLM sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Barış Soyer, Cyfarwyddwr Rhaglenni LLM Llongau a Masnach a Chyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol:
“Hoffwn estyn fy niolch diffuant i DWF am gynnal y digwyddiad hwn mor hael, ac yn arbennig i un o’n cyn-fyfyrwyr nodedig, Michael Biltoo, sydd bellach yn Bartner yn y cwmni, am helpu i’w wireddu.
Roedd yn hynod werth chweil gweld cynifer o’n cyn-fyfyrwyr yn ffynnu yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Mae gweld eu llwyddiant a gwybod bod ein rhaglenni wedi chwarae rhan yn eu taith yn destun balchder mawr a boddhad personol.
Rydym yn aml yn dweud bod ‘LLM Abertawe yn mynd â chi i lefydd’, ac fe roddodd y digwyddiad hwn gyfle gwych inni weld yr addewid hwnnw’n cael ei wireddu drwy lwyddiannau ein graddedigion.”