Pan oedd pawb yn y DU yn chwysu yn y tywydd crasboeth dros yr haf, heidiodd llawer o bobl i'r traethau, rhywbeth mae’n hawdd iawn ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe, gyda'i lleoliad glan môr delfrydol - yn wir, gellir cerdded i'r traeth mewn munud o Gampws Singleton sy'n gartref i Ysgol y Gyfraith! 

Fodd bynnag, i 50 o fyfyrwyr, parhau â’u haddysg oedd eu nod oherwydd roedden nhw wedi cael eu dewis ar gyfer amrywiaeth o leoliadau gwaith cyfreithiol a gynigiwyd gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr sy'n bartneriaid i ni ledled de Cymru.

Roedd modd i ni gynnig lleoliadau gwaith mewn 16 sefydliad ac rydym yn ddiolchgar i'r sefydliadau canlynol a groesawodd ein myfyrwyr:

ADVE

BWL

CJCH 

CJHH

Darwin Gray

Goldstones

Gomer Williams & Co

JNP Legal

Kirsty’s Law

Morgan LaRoche

Siambrau Pendragon

Peter Lynn & Partners

Price & Kelway 

Red Kite

Cyfreithwyr Eiddo Sam Hawkins

W Parry & Co

Roedd yr amser a dreuliwyd ar leoliad gwaith yn gyfle i’r myfyrwyr ddysgu am gyflogwyr, yn gyfle i’r cyflogwyr gwrdd â'r myfyrwyr, yn gyfle i ddysgu am sut beth yw ymarfer y gyfraith, ac rydym wrth ein boddau bod yr adborth mor gadarnhaol.

Dywedodd un myfyriwr, a oedd ar leoliad mewn cwmni cyfreithwyr, "Roedd y cyfreithwyr yn y cwmni yn gyfeillgar iawn. Gwnaethon nhw ateb fy nghwestiynau mewn ffordd garedig.Mae'n rhoi mewnwelediad go iawn i sut y caiff eich gradd ei defnyddio."

Dywedodd myfyriwr arall, a dreuliodd amser gyda Siambrau lleol, "Yn gyffredinol, gwnaeth y profiad wella fy nealltwriaeth o'r Bar yn sylweddol, ac roedd yn fuddiol yn enwedig wrth fy mharatoi ar gyfer fy mlwyddyn ar leoliad gwaith. Rhoddodd brofiad cyfreithiol gwerthfawr i mi, gan fy helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn barod i ddechrau fy lleoliad gwaith."

Yn Abertawe, rydym yn ymrwymedig i'r bartneriaeth dair-ffordd rhwng y myfyrwyr, y Brifysgol ac ymarferwyr, ac rydym wrth ein boddau bod cynifer o sefydliadau wedi gallu cynnig eu hamser mor hael. Edrychwn ymlaen at barhau â’r broses hon gyda thri chyfnod gwahanol ar gyfer lleoliadau gwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2026/2027.

Rhannu'r stori