Lakshmi Priya, Raja Majumdar and Prof Leloudas
Mae Gwobr fawreddog Bose Mitra & Co, a sefydlwyd gan un o brif gwmnïau cyfreithiol byd-eang India, Bose Mitra & Co, unwaith eto wedi cydnabod cyflawniad rhagorol gan fyfyriwr o India ar raglen LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol Prifysgol Abertawe, sy'n enwog yn rhyngwladol.
Mae'r wobr flynyddol, sy'n cynnwys gwobr ariannol ac interniaeth am fis yn swyddfeydd y cwmni, yn cynnig profiad ymarferol amhrisiadwy i'r derbynnydd ym maes cyfraith ac ymarfer morwrol, gan helpu i bontio'r bwlch rhwng rhagoriaeth academaidd a datblygiad proffesiynol.
Derbynnydd eleni yw Lakshmi Priya, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau ei LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Yn flaenorol, enillodd Lakshmi ei gradd LLB mewn Cyfraith Busnes yn Sefydliad Technoleg Vellore, India.
Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni yn Llundain gan Raja Majumdar, Partner Rheoli Bose Mitra & Co. Yn cynrychioli Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe a'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, roedd yr Athro George Leloudas yn bresennol yn y seremoni.
Wrth longyfarch Lakshmi ar ei llwyddiant, dywedodd yr Athro Leloudas:
"Rydym yn hynod falch o Lakshmi am ei pherfformiad rhagorol eleni. Mae'r wobr hon yn dyst i'w gwaith caled, ei hymroddiad a'i thalent eithriadol. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i Bose Mitra & Co am eu cefnogaeth barhaus i'r Sefydliad ac am roi cyfle mor arbennig i'n myfyrwyr gorau ennill profiad proffesiynol amhrisiadwy. Mae'r bartneriaeth hirdymor hon yn creu cyfleoedd eithriadol i'n myfyrwyr ac yn cryfhau'r cysylltiad rhwng rhagoriaeth academaidd a'r proffesiwn cyfreithiol morwrol byd-eang."
Mae Gwobr Bose Mitra & Co yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y cwmni i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr morwrol, gan atgyfnerthu'r cysylltiadau cryf rhwng Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol Prifysgol Abertawe ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw.