Pam dylech chi astudio am eich gradd meistr yn y gyfraith gyda ni?

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, ac sy'n darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.

Mae Abertawe'n ddinas a chanddi draddodiad morwrol hirsefydlog. Yn y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raddau LLM ym meysydd cyfraith fasnachol, forwrol, fasnachu, olew a nwy ac eiddo deallusol.

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o’r Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol, Asia, De-ddwyrain Asia, Affrica, America ac Ewrop. Caiff myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis dadlau mewn ffug-lysoedd barn ac ysgolion haf dramor.

Mae aelodau’r IISTL ar flaen y gad o ran ysgolheictod yn eu  meysydd arbenigol, ac mae eu haddysgu medrus ac arloesol yn pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

Caiff graddedigion wneud cais i gael eu heithrio rhag sefyll sawl arholiad cymhwysedd proffesiynol Sefydliad y Broceriaid Llongau Siartredig a'r Sefydliad Yswiriant Siartredig. Os ydych yn cwblhau'r modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus, cewch wneud cais i gael eich eithrio rhag gofynion addysg lefel 2 aelodaeth CIArb, sy'n caniatáu i chi wneud cais am aelodaeth y Sefydliad neu MCIArb.

Mae'r Adran Cyfraith Llongau a Masnach yn cynnig cymorth bugeiliol ardderchog a dosbarthiadau iaith Saesneg am ddim er mwyn eich helpu i wella eich sgiliau meddwl ac ysgrifennu beirniadol yn y gyfraith.

Rydym yn elwa o gysylltiadau agos ag ymarferwyr y gyfraith ac elfennau amrywiol o’r sectorau llongau a busnes, ac rydym yn trefnu mentrau cyflogadwyedd megis sgyrsiau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, Ffair Yrfaoedd LLM flynyddol, digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â chwmnïoedd blaenllaw yn Ninas Llundain.

Mae graddedigion o raglen LLM Abertawe yn hynod gymwys i fentro i'r farchnad swyddi fyd-eang. Gwyliwch y fideo i weld beth sydd ganddynt i'w ddweud am y Sefydliad.

GRADDAU YMCHWIL MPHIL A PHD

Mae'r Ysgol yn cynnig tri math o raglen ymchwil sy'n arwain at raddau uwch Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) a Doethur mewn Athroniaeth (PhD).

Ym mhob achos, mae'r myfyrwyr yn gwneud ymchwil dan oruchwyliaeth sy'n arwain at draethawd ymchwil a gyflwynir i'w arholi. Mae graddau LLM neu MPhil yn gofyn am o leiaf flwyddyn o astudio amser llawn a bydd Doethuriaeth (PhD) yn para o leiaf dair blynedd.

Fel arfer, os nad oes ganddynt gymhwyster meistr, gofynnir i ymgeiswyr gofrestru am LLM neu MPhil yn y lle cyntaf. Gellir newid hwn yn PhD ar ôl blwyddyn o gyfnod prawf.

Rhaid i fyfyrwyr LLM neu MPhil rhan-amser gwblhau o leiaf bum mlynedd o ymchwil. Nod y rhaglen yw ehangu gwybodaeth myfyrwyr yn eu meysydd eu hunain a datblygu eu sgiliau ymchwil, gan wella eu potensial gyrfaol. Mae Rhaglen y Ddoethuriaeth yn cynnig arweiniad ar fethodoleg ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc penodol a meysydd amlddisgyblaeth.

Gall y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol ddarparu goruchwyliaeth arbenigol mewn pynciau megis cyfraith llongau, siartrau llogi llongau a biliau llwytho rhyngwladol. Mae'r arbenigedd ar draws y Coleg yn cynnwys damcaniaeth gyfreithiol, cyfraith fyd-eang, cyfraith ryngwladol, cyfraith Ewropeaidd, cyfraith yr amgylchedd, cyfraith a thystiolaeth droseddol, cyfraith hawliau dynol, cyfraith feddygol, cyfraith gyhoeddus a gweinyddol, cyfraith teulu, moeseg ac athroniaeth ac astudiaethau cymdeithasol a chyfreithiol.