Gystadleuaeth Eiriolaeth Polisi

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cystadleuaeth newydd o fri ar gyfer timau o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd â diddordeb yn hawliau dynol plant, y gyfraith a pholisi yn ymwneud â phlant.

Mae Cystadleuaeth Eiriolaeth Polisi’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant 2024 yn cael ei chyflwyno gyda chefnogaeth Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF y DU).

Gwybodaeth am y Gystadleuaeth

Mae eiriolaeth polisi i hyrwyddo hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn allweddol i wella bywydau plant.

Mae’r Gystadleuaeth Eiriolaeth Polisi hon (a gefnogir gan UNICEF-y DU) yn gyfle i dimau o fyfyrwyr ymchwilio i fater polisi, paratoi briff ar gyfer Gweinidog Llywodraeth (dychmygol) a gweithredu fel eiriolwyr dros hawliau plant.

Y dasg

Gofynnir i dimau baratoi Papur Briff Polisi ysgrifenedig i’w gyflwyno i Weinidog Plant mewn awdurdodaeth wladol ddychmygol.

Bydd y timau’n cynrychioli Comisiynydd Plant i ddadlau’r achos o blaid dileu’r amddiffyniad o ‘gosb y gellir ei chyfiawnhau’ sydd ar gael i rieni a gofalwyr sy’n gyfrifol am blentyn fel amddiffyniad rhag cyhuddiad o ymosod yn y Wladwriaeth ddychmygol. 

Bydd y briffiau ysgrifenedig yn cael eu hasesu a bydd wyth tîm yn cael eu gwahodd i wneud cyflwyniad llafar ar-lein i banel o feirniaid arbenigol.

Cymryd rhan

Mae Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn gwahodd timau o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen astudio Baglor neu Feistr ar 30ain Ebrill 2024 i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Nid oes ffi ymgeisio na gweinyddu am y gystadleuaeth hon.

Cofrestru

Mae modd cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth hon bellach. I gymryd rhan ynddi, rhaid i chi gofrestru erbyn 5pm (amser y DU) ar 28 Mehefin 2024.

Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut i gofrestru ar gael o dan Reolau 17 a 18 yn ‘Rheolau'r Gystadleuaeth’. Gallwch gael mynediad at y rheolau hyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, sut mae gwneud cais a’r rheolau

Crynodeb o’r llinell amser

  • Rhagfyr 2024, bydd briff llawn, cyfarwyddiadau gwneud cais, meini prawf sgorio a rheolau’r gystadleuaeth ar gael ar-lein.
  • 1af Chwefror 2024, cofrestru’n agor.
  • 28ain Mehefin 2024, cofrestru’n cau.
  • 28ain Mehefin 2024, y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno cyngor ysgrifenedig.
  • 31ain Gorffennaf 2024, cyhoeddi'r wyth tîm yn y safleoedd uchaf a’u gwahodd i roi cyflwyniad llafar byw.
  • Medi 2024, cyflwyniadau llafar byw (rhoi gwybod i bob tîm pwy yw’r tîm buddugol).
  • Tachwedd 2024, cyhoeddi’r tîm buddugol yn y ddarlith flynyddol.

Competition Image

A group of students having a conversation