Gwybodaeth amdanom ni yn yr Arsyllfa

Lleolir yr Arsyllfa yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe (gan weithio gyda Phrifysgol Bangor) a chafodd ei sefydlu yn 2012 fel prosiect cydweithredol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ei nod yw darparu fforwm ar gyfer ymchwil, trafodaethau, addysg a chyfnewid gwybodaeth ym maes hawliau dynol a phobl ifanc a gweithio i gyflawni hawliau dynol drwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio'r gyfraith.

Mae'r Arsyllfa'n ymrwymedig i:

  • Ymgymryd ag ymchwil, dadansoddiadau data ac astudiaethau gwerthusol
  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a dysgu ganddynt, gan barchu eu "hawl i ddisgwyl bod ymchwil briodol yn cael ei gwneud i'w hawliau"
  • Darparu gwybodaeth a hyfforddiant i blant a phobl ifanc er mwyn datblygu gallu a helpu plant a phobl ifanc i fanteisio ar eu hawliau
  • Nodi ac eirioli dros newid yn y gyfraith ac mewn ymarfer i roi effaith ymarferol i hawliau plant a phobl ifanc.
  • Manteisio ar yr wybodaeth a'r arloesi gorau er mwyn cefnogi'r broses o roi hawliau dynol plant a phobl ifanc ar waith
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn sefydliadau academaidd, proffesiynol, llywodraethol ac anllywodraethol