Chwaraewch Rygbi Perfformiad Uchel Ym Mhrifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd eithriadol i fyfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau academaidd, ond gan ganlyn eu gyrfa rygbi ar yr un pryd.

Drwy ein rhaglen rygbi perfformiad uchel, rydym yn meithrin chwaraewyr talentog drwy becynnau ysgoloriaeth cynhwysfawr a all gynnwys hyfforddiant, gwasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw i athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru; oll wedi'u cyflwyno gan weithwyr proffesiynol hynod brofiadol.

Rydym wedi datblygu chwaraewyr proffesiynol sydd wedi cynrychioli eu rhanbarth, eu cenedl a'u gwlad, yn ogystal â chwaraewyr byd-enwog ac arwyr y byd rygbi fel Alyn Wynn Jones, Huw Bennet a Rhys Priestland – gallwch weld rhai o'n cyn-fyfyrwyr chwaraeon yma

Rydym yn anelu at ddarparu amgylchedd chwaraeon eithriadol sy'n annog gwelliant cyson ac yn meithrin llwyddiant parhaus.

Gyda thros 140 o aelodau presennol a phedwar tîm yn cystadlu bob dydd Mercher yn BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain), mae ein Clwb Rygbi Dynion yn defnyddio cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a'r  'Sied', sef ein canolfan cryfder a chyflyru elît ar Gampws Parc Singleton, ac rydym yn chwarae ein gemau cartref ar gae rygbi enwog San Helen sy'n edrych dros Fae Abertawe.

Os hoffech ymuno â'n tîm rygbi, ewch i dudalen y clwb ar wefan yr undeb myfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglen perfformiad uchel, cysylltwch â'n Rheolwr Perfformiad Rygbi drwy e-bost.

Cyfleoedd Noddi Rygbi Dynion

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â'n tîm rygbi dynion ac i gefnogi'r tîm neu chwaraewyr, gan adeiladu eich brand eich hun ar yr un pryd.

Cysylltwch â ni trwy e-bost